Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Seneddol ar gyfer Joshua Kim AS

Cyhoeddwyd 03/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/06/2026

Cynorthwyydd Seneddol ar gyfer Joshua Kim AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth (Bargoed), Tŷ Hywel (Bae Caerdydd)
Cyfeirnod: MBS-008-26

Diben y swydd: 

Bydd Cynorthwyydd Seneddol Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd â gwaith ymchwil polisi manwl, yn drafftio papurau briffio ac yn cefnogi gwaith deddfwriaethol. Bydd yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion polisi, yn helpu i lunio strategaethau gwleidyddol, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd hefyd yn gwneud gwaith ymchwil, y wasg a’r cyfryngau yn ôl yr angen, gan sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu lledaenu i bobl drwy’r cyfrwng mwyaf priodol.

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, meysydd polisi a mentrau'r llywodraeth.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau ar gyfer y Senedd.
  • Cysylltu â melinau trafod, elusennau, grwpiau eiriolaeth a busnesau i gasglu gwybodaeth gan arbenigwyr.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
  • Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, ac yn ddelfrydol gyda thystiolaeth o allu llunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Dangos profiad o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. gradd, NVQ neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Joshua.Kim-MS@Senedd.Wales


Dyddiad cau: 10 Mehefin 2026, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau