Gweithiwr Achos Cymunedol / Swyddog Cyswllt Cymunedol i Heledd Fychan AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 14
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Pontypridd
Cyfeirnod : MBS-058-24
Diben y swydd:
Rhoi cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol i’r Aelod o’r Senedd, yn ogystal â chymorth gyda chyhoeddusrwydd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, grwpiau cymunedol, gwleidyddion eraill a grwpiau pwyso
- Datblygu a chynnal system gwaith achos gan sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi, monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd
- Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw a bod gwybodaeth yn cael ei rheoli'n gyfrinachol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data
- Ymgymryd â gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod y gwleidydd yn cael ei hysbysu o unrhyw faterion perthnasol
- Meithrin gwybodaeth am feysydd arbenigol, trefnu cymorthfeydd os gwneir cais amdanynt a chynnig cymorth ar y dydd
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
- Profiad o feddalwedd Gweithiwr Achos
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol;
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.