cons

cons

Cyfle Gwaith: Is-ymchwilydd ar gyfer Darren Millar AS – Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr y Senedd

Cyhoeddwyd 21/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/05/2025

Is-ymchwilydd ar gyfer Darren Millar AS – Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr y Senedd

Ystod cyflog (pro rata): £25,167 - £33,706

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr
Natur y penodiad: Tymor penodol am 12 mis
Lleoliad: Tŷ Hywel, Senedd Cymru
Cyfeirnod: MBS-016-25

Diben y swydd: 

Helpu i ddarparu cymorth ymchwil, cyngor a gweinyddol o ansawdd uchel i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau:

  1. Cynnal gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol
  2. Ymchwilio i feysydd polisi perthnasol yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd 
  3. Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod o’r Senedd wrth iddo ymdrin â gwaith achos etholaethol neu er mwyn helpu i lywio trafodaethau
  4. Darparu gwaith ymchwil o safon uchel mewn ymateb i ymholiadau

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  •  Profiad mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
  • Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a’r gallu i weithredu mewn amgylchedd sensitif, ac ymrwymiad i'r materion hyn
  • Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn 

 

Cymhwysterau hanfodol:

  •      Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
  • Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol


Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Davies@senedd.cymru 

 


Dyddiad cau: 28 Mai 25, 13:00
Dyddiad cyfweliad: 28/29 Mai 25