Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Dafydd Trystan Davies AS

Cyhoeddwyd 02/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/06/2026

Rheolwr Swyddfa ar gyfer Dafydd Trystan Davies AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu swyddfa etholaethol Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-030-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith rheoli a gweinyddu sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall fod â goruchwyliaeth dros reoli cofnodion, gan sicrhau llwybrau archwilio clir mewn perthynas â phob gohebiaeth a bod data yn cael eu prosesu a'u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau ac atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith a blaenoriaethu dyraniad ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol er enghraifft, cymorthfeydd yr Aelod, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu.

Prif ddyletswyddau:

  • Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol.  Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan fod yn rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
  • Yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion sy'n safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
  • Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.
  • Profiad o reoli llinell a chymorth ar gyfer staff.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Dafydd.TrystanDavies-AS@senedd.cymru  Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos. Mae’r Aelod sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli.  Gall y rôl fod yn benodiad unigol gan yr Aelod sy’n hysbysebu, Aelod arall o’r etholaeth honno, neu gellir rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod. 

Yn ogystal â Dafydd Trystan Davies yr Aelodau eraill o’r blaid sy’n cynrychioli etholaeth a all benodi i’r rôl hon yw: Zaynub Akbar, a Nick Carter 


Dyddiad cau: 15 Mehefin 2026, 12yh (canol dydd)
Dyddiad cyfweliad: TBC