Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Jason O'Connell AS

Cyhoeddwyd 27/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/05/2026

Rheolwr Swyddfa ar gyfer Jason O'Connell MS 

Ystod cyflog (pro rata): £39,274-£50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos 
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol, Pontypridd a'r Senedd, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-019-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith rheoli a gweinyddu sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall fod â goruchwyliaeth dros reoli cofnodion, gan sicrhau llwybrau archwilio clir mewn perthynas â phob gohebiaeth a bod data yn cael eu prosesu a'u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau ac atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith a blaenoriaethu dyraniad ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol er enghraifft, cymorthfeydd yr Aelod, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu.

Prif ddyletswyddau:

  • Datblygu a chynnal perthnasoedd sy'n cefnogi rhwydweithiau mewnol ac allanol
  • Cynrychioli'r maes gwaith mewn cyfarfodydd
  • Cydgysylltu llif gwaith a chanlyniadau tîm bach sy'n cyflawni tasgau cysylltiedig

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol. 
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â jason.oconell-ms@senedd.wales

 


Dyddiad cau: 03 Mehefin 2026, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau