Alun Davies

Alun Davies

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i Alun Davies AS

Cyhoeddwyd 01/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2025

Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd ar gyfer Alun Davies AS

Ystod cyflog (pro rata): £32,351 - £45,380 

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Cyfnod penodol tan fis Mai 2026 gyda'r posibilrwydd y caiff y swydd ei gwneud yn un barhaol
Lleoliad: Bae Caerdydd, gyda gwaith achlysurol (un diwrnod yr wythnos fel arfer) ym Mlaenau Gwent
Cyfeirnod: MBS-025-25

Diben y swydd: 

Rheoli gwaith sy’n gysylltiedig â’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr Aelod, fel sy'n ofynnol, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau:

  • Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn â'r wasg, y cyfryngau ar-lein a’r cyfryngau darlledu er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod.
  • Cynllunio a datblygu strategaethau, a threfnu ymgyrchoedd cyfryngau a chyfathrebu digidol.
  • Hyrwyddo presenoldeb yr Aelod ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn hysbysu etholwyr a rhanddeiliaid am waith yr Aelod yn lleol ac yn y Senedd.
  • Cynhyrchu fideos, ffeithluniau ac offer cyfathrebu eraill i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio’n effeithiol mewn rôl cyfathrebu/cyfryngau cymdeithasol, megis yn y wasg ysgrifenedig, y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus, yn ddelfrydol mewn amgylchedd gwleidyddol neu debyg.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Profiad o ddefnyddio dulliau cyfathrebu digidol a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
  • Gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Kelly.Preston@senedd.wales 


Dyddiad cau: 12pm (canol dydd), 11 Gorffennaf 2025
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau