Cynorthwyydd Gweinyddol i Nick Carter AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru a/neu Swyddfa Etholaeth Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-046-26
Diben y swydd:
Mae Swyddog Cyfathrebu Band 1 yn gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd â gwaith ymchwil, gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg a'r cyfryngau, yn goruchwylio'r strategaeth gyfathrebu ac yn rheoli ymgysylltiadau proffil uwch. Bydd yn meddu ar arbenigedd sylweddol drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso i ystod eang o sefyllfaoedd sy’n berthnasol i gyfathrebiadau.
Prif ddyletswyddau:
Cyfathrebiadau strategol a chysylltiadau â’r cyfryngau
• Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.
• Gweithredu fel prif gyswllt y cyfryngau, gan ymgysylltu’n rhagweithiol â newyddiadurwyr a darlledwyr.
• Ysgrifennu datganiadau i'r wasg, erthyglau barn a briffiau i'r cyfryngau sy'n cael effaith fawr.
• Rheoli ymddangosiadau yn y cyfryngau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, gan gynnwys drafftio negeseuon allweddol.
• Ymdrin â risgiau i enw da a chynghori ar ymatebion y cyfryngau.
Rheoli’r Cyfryngau Digidol a’r Cyfryngau Cymdeithasol
• Gosod y naws a'r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
• Cynhyrchu a goruchwylio’r broses o greu cynnwys amlgyfrwng o ansawdd uchel (graffeg, fideos, ffeithluniau).
• Rheoli'r ymateb i ddadleuon ar-lein ac unrhyw risgiau posibl i enw da.
Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Rheoli Rhanddeiliaid
• Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraeth, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
• Goruchwylio’r gwaith o lunio cylchlythyrau, blogiau a chynnwys gwefannau.
• Trefnu a hyrwyddo cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau ac ymweliadau ag etholaethau.
• Cynghori’r Aelod ar negeseuon cyhoeddus a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol.
Cyfathrebu seneddol a chyfathrebu polisi
• Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau a briffiau polisi ar gyfer yr Aelod.
• Rhoi cyngor ar sut i lunio cyhoeddiadau polisi i gael yr effaith fwyaf.
• Cydgysylltu ymatebion i ddadleuon y Senedd a chwestiynau seneddol.
• Sicrhau cysondeb mewn negeseuon ar draws pob llwyfan.
Arweinyddiaeth a Goruchwyliaeth
• Rheoli staff iau, dirprwyo tasgau, a sicrhau allbwn o ansawdd uchel.
• Goruchwylio i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyfathrebu yn cydymffurfio â rheolau'r Senedd.
• Cysylltu â thîm cyfathrebu pleidiau gwleidyddol ac arweinyddiaeth yr Aelod ar gyfer alinio negeseuon ehangach.
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol:
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig aeddfed iawn.
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn.
- Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm bach.
Cymwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.
- Cymhwyster proffesiynol neu academaidd priodol neu brofiad cyfatebol.