Cyfle Gwaith: Swyddog Cymorth Etholaethol i James Evans AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth
Cyfeirnod: MBS-016-26
Diben y swydd:
Byddai Swyddog Gweinyddiaeth a Rheolaeth Busnes Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (AS) fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo gyda phob agwedd ar redeg swyddfa'r Aelod gan gynnwys darparu cefnogaeth weinyddol yn uniongyrchol i'r Aelod.
Prif ddyletswyddau:
- Ymdrin â negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn gan etholwyr, rhanddeiliaid a chyrff llywodraeth.
- Trefnu amserlen yr Aelod, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau a threfniadau teithio.
- Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg mewn maes gwaith gweinyddol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg gyda'r offer a'r cyfarpar ar gyfer y gwaith. Sgiliau TG effeithiol, yn enwedig wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft fel SharePoint, Word, Outlook ac Excel.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â James.Evans-MS@Senedd.Wales