Cyfle Gwaith: Swyddog Cymorth y Senedd i James Evans AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis
Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-017-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Cymorth y Senedd ym Mand 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn cefnogi'r Aelod drwy wneud gwaith ymchwil, drafftio papurau briffio polisi, a helpu gyda gwaith y Senedd.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil cefndirol ar faterion polisi, deddfwriaeth a phryderon etholaethol.
- Cynorthwyo’r gwaith o ddrafftio cwestiynau yn y Senedd a llythyrau at Weinidogion
- Cefnogi'r Aelod wrth ymgysylltu ag etholwyr, grwpiau buddiant a rhanddeiliaid.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Sgiliau ymchwil a dadansoddi, gan gynnwys y gallu i grynhoi gwybodaeth.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig da i ddrafftio adroddiadau a phapurau briffio polisi.
- Disgwylir bod yn hyddysg gyda'r adnoddau a'r offer arferol ar gyfer y swydd e.e. pecynnau meddalwedd safonol, a bod yn gyfarwydd â’r cyfryngau ar-lein.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â James.Evans-MS@Senedd.Wales