David Rees

David Rees

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyswllt Cymunedol a Gwaith Achosar gyfer David Rees AS

Cyhoeddwyd 18/07/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/07/2025

 Cyfle Gwaith: Swyddog Cyswllt Cymunedol a Gwaith Achosar gyfer David Rees AS

Ystod cyflog (pro rata): £27,722 – £40,321

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: Hyd at 22.5 awr yr wythnos (i’w drafod)
Natur y penodiad: Cyfnod penodol tan 31 Mai 2026
Lleoliad: Swyddfa etholaethol, Aberafan
Cyfeirnod: MBS-032-25

Diben y swydd: 

Cysylltu ag etholwyr a sefydliadau sy'n bodoli yn yr etholaeth, neu sydd â buddiannau ynddi.  

Cynorthwyo'r Aelod gyda’i waith yn yr etholaeth.

Gweithredu fel cynrychiolydd yr Aelod mewn digwyddiadau/fforymau/cyfarfodydd yn yr etholaeth. 

Gwneud gwaith achos ar ran yr Aelod.

Prif ddyletswyddau:

  1. Darparu papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod i ymdrin â gwaith achos etholaethol.
  2. Cefnogi gweithgareddau'r swyddfa i sicrhau yr ymdrinnir ag ymholiadau ffôn, ymholiadau electronig ac ymwelwyr mewn modd priodol a phroffesiynol.
  3. Gwneud gwaith achos ar ran yr Aelod o’r Senedd a chynhyrchu ymatebion terfynol i etholwyr.
  4. Datblygu perthynas effeithiol â chydweithwyr o wasanaethau gwahanol ar draws Senedd Cymru, a chydweithio â nhw.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o ddatrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r etholaeth a'i sefydliadau/cyrff lleol
  • Profiad o ymdrin â sefydliadau cymunedol.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Rees@Senedd.Cymru 

 


Dyddiad cau: 25 Gorffennaf 2025, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau