Altaf Hussain AS

Altaf Hussain AS

Cyfle Gwaith: Swyddog Datblygu ar gyfer Altaf Hussain MS

Cyhoeddwyd 07/08/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/08/2025

Swyddog Datblygu ar gyfer Altaf Hussain MS

Ystod cyflog (pro rata): £32,351 - £45,380

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 14.8 awr yr wythnos 
Natur y penodiad: Tymor Penodol tan fis Ebrill 2026 (gyda'r posibilrwydd o'i wneud yn barhaol)
Lleoliad: Swyddfeydd Rhanbarthol/Hybrid
Cyfeirnod: 

Diben y swydd: 

Cysylltu ag etholwyr a sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y rhanbarth, neu sydd â buddiannau yn y rhanbarth.

Trefnu cyfarfodydd ac ymweliadau yn y Rhanbarth

Rhoi cymorth i'r Aelod yn ystod ei waith yn y Rhanbarth.

Gweithredu fel cynrychiolydd yr aelodau mewn digwyddiadau/fforymau/cyfarfodydd yn y rhanbarth. 

Datblygu strategaeth gyhoeddusrwydd a goruchwylio’r broses o’i chyflawni

Prif ddyletswyddau:

  1.  Sefydlu a datblygu cysylltiadau cadarn â'r wasg, y cyfryngau a sefydliadau yn y Rhanbarth er mwyn hyrwyddo gwaith yr Aelod o’r Senedd
  2. Cynllunio a datblygu strategaethau, a threfnu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd.
  3. Trafod â’r Aelodau o’r Senedd/Rheolwyr Swyddfa a nodi unrhyw agweddau ar eu gwaith a allai fod o ddiddordeb i’r cyfryngau.
  4. Gwneud gwaith ymchwil ar gyfer datganiadau i'r wasg a datganiadau eraill i'r cyfryngau, cyn eu paratoi a'u hysgrifennu.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad sylweddol o weithio’n effeithiol yn y wasg ysgrifenedig, y diwydiant darlledu neu ar-lein, neu’r sector cysylltiadau cyhoeddus yn ddelfrydol mewn amgylcheddol wleidyddol neu debyg.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu a threfnu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â’r cyfryngau, gan gynnwys llunio datganiadau i'r wasg
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymhwysterau hanfodol: 

  •      Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  •    gymhwyster ffurfiol, e.e. NVQ lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol yn y cyfryngau neu ym maes cyfathrebu.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Mark.Major@Senedd.Cymru 

 


Dyddiad cau: 14 Awst 2025, 2pm
Dyddiad cyfweliad: 26 Awst 2025