Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorydd a Phennaeth Cyfathrebu i Laura Jones AS

Cyhoeddwyd 21/05/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/05/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorydd a Phennaeth Cyfathrebu i Laura Jones AS

Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol. 
Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd 
Cyfeirnod: MBS-005-26

Diben y swydd: 

Bydd Uwch-gynghorydd sy’n gweithio i Aelod o’r Senedd (AS) yn arbenigwr ym maes cyfathrebu ac yn meddu ar brofiad helaeth. Bydd yn meddu ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o weithrediad y Senedd a chraffter gwleidyddol sylweddol.  Bydd yn gyfrifol am arwain a gweithredu strategaeth gyfathrebu gyffredinol yr Aelod, gan sicrhau bod ei negeseuon yn glir, yn gyson, ac yn effeithiol ar draws pob platfform. Mae hon yn rôl strategol ac uwch, sy'n aml yn cynnwys cysylltu'n uniongyrchol â thîm cyfathrebu canolog y blaid a rheoli cysylltiadau proffil uchel â’r cyfryngau, gan gynnwys ymdrin ag argyfyngau.

Prif ddyletswyddau:

  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol a buddiannau etholaethol yr Aelod.
  • Cynghori’r Aelod ar negeseuon, delwedd gyhoeddus, a chyfleoedd cyfathrebu pwysig.
  • Goruchwylio presenoldeb yr Aelod ar y cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau cynnwys deniadol o ansawdd uchel.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso ym mhob sefyllfa sy’n berthnasol i waith cyfathrebu.
  • Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.  Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau a dealltwriaeth ohoni.

Cymhwysterau hanfodol:

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall, neu
  • Cymhwyster proffesiynol neu academaidd priodol neu brofiad cyfatebol, neu.
  • Profiad blaenorol o weithio i Aelod o’r Senedd, Aelod Seneddol neu Aelod o Senedd Ewrop.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Laura.Jones-MS@Senedd.Wales 


Dyddiad cau: 29 Mai 2026, 3pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau