Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorydd a Rheolwr Swyddfa i Laura Jones AS
Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol.
Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-004-26
Diben y swydd:
Bydd Uwch-gynghorydd sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn arbenigwr ym maes polisi ac ymchwil, a bydd yn chwarae rhan strategol wrth lunio safbwyntiau polisi, wrth arwain gwaith deddfwriaethol, ac wrth ddarparu cyngor gwleidyddol lefel uchel. Bydd yn arwain ym maes ymchwil, yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu polisïau, ac yn gweithredu fel cynghorydd allweddol i'r Aelod ar faterion cymhleth.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol
- Drafftio adroddiadau manwl, papurau polisi, a dogfennau briffio i gefnogi gwaith yr Aelod
- Dadansoddi materion etholaethol, cynigion y Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau, gan gynghori ar strategaeth wleidyddol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
- Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Laura.Jones-MS@Senedd.Wales