Uwch-gynorthwyydd Seneddol ar gyfer Sam Rowlands AS
Ystod cyflog (pro rata): £32,351 - £45,380
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Y Senedd
Cyfeirnod: MBS-029-25
Diben y swydd:
Cymryd yr awenau a darparu deunydd ymchwil, deunydd briffio a chefnogaeth ehangach o ansawdd uchel i'r Aelod yn ei rôl yn y Senedd ar amrywiaeth eang o bynciau. Gallai hyn gynnwys pynciau nad yw deiliad y swydd yn gyfarwydd â hwy.
Prif ddyletswyddau:
- Darparu cyngor a deunydd ymchwil, dadansoddiadau a deunydd briffio o ansawdd uchel, a hynny'n amserol, ar amrywiaeth o feysydd polisi a deddfwriaeth.
- Datblygu a chynnal gwybodaeth am bynciau y cytunir arnynt fel eich bod yn gallu rhagweld a bodloni anghenion gwybodaeth yr Aelod o’r Senedd.
- Meithrin perthnasoedd effeithiol a chydweithio â phobl o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws y Senedd.
- Meithrin perthynas waith dda â swyddogion cyfatebol yn neddfwrfeydd eraill y DU, a chyda'r gymuned ymchwil a swyddogion polisi
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad helaeth o ddarparu gwaith ymchwil neu waith briffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Harry.Saville@Senedd.Cymru