Uwch-gynghorwr ar gyfer Laura Jones MS
Ystod cyflog (pro rata):
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol
Lleoliad: Y Senedd, a’r Swyddfa Etholiadol Ranbarthol
Cyfeirnod: MBS-061-25
Diben y swydd:
Swyddogaethau craidd y Senedd yw cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi yng Nghymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Drwy fusnes ffurfiol y Senedd yn bennaf, sef yn y Cyfarfod Llawn ac yng nghyfarfodydd y pwyllgorau, y caiff y Llywodraeth ei dwyn ei gyfrif, y caiff syniadau polisi eu trafod a’u datblygu, ac y bydd cynigion ar gyfer deddfwriaeth, polisi a gwariant yn cael eu gwella wrth i Senedd Cymru graffu arnynt.
Bwriad rôl yr Uwch-gynghorwr yw ychwanegu dimensiwn arall at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i Aelodau o’r Senedd wrth iddynt ymgymryd â'r gwaith hwn.
Prif ddyletswyddau:
1. Rhoi cyngor arbenigol fel arbenigwr mewn maes penodol.
2. Rhoi cyngor ynghylch materion polisi, cyllid a deddfwriaeth gerbron y Senedd, ac unrhyw agwedd arall ar fusnes y Senedd.
3. Canfod materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n berthnasol i fusnes y Senedd, a briffio'r Aelod yn unol â hynny.
4. Cyfrannu at y broses o feddwl am bolisïau a'u cynllunio, gan gynnwys materion sy'n deillio o waith achos yr Aelod neu unrhyw weithgarwch arall yn yr etholaeth neu ranbarth.
5. Paratoi papurau polisi i gefnogi polisïau hirdymor i'r Aelod a/neu'r Grŵp.
6. Datblygu strategaeth er mwyn i'r Aelod ymdrin â materion etholaethol/rhanbarthol sy'n arbennig o bwysig ar lefel leol neu genedlaethol.
7. Cysylltu â grwpiau diddordeb allanol, gan gynnwys o fewn etholaeth/rhanbarth yr Aelod, i gynorthwyo cyfraniad yr Aelod at fusnes y Senedd.
8. Rhoi cymorth strategol ym maes cyfathrebu a materion cyhoeddus.
9. Paratoi a chyflwyno deunydd o fewn terfynau amser tyn i gynorthwyo'r Aelod gyda busnes ffurfiol y Senedd.
10. Ysgrifennu areithiau, llunio cwestiynau a gwelliannau a gwaith ymchwil cysylltiedig, gan gynnwys ychwanegu cynnwys at ddeunydd a baratowyd gan staff Comisiwn y Senedd ac eraill.
11. Ymgymryd â thasgau ymchwil cymhleth a gwerthuso a dehongli'r canlyniadau.
12. Cysylltu â staff Comisiwn y Senedd ac eraill i wneud y mwyaf un o'r budd o gyngor ac arbenigedd ategol.
13. Cwblhau datganiadau amserol i’r wasg, yn wythnosol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
• Profiad o weithio’n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb.
• Cyfrifoldeb am reoli tîm aml-ddisgybledig o staff sydd â hanes profedig o sicrhau canlyniadau.
• Gwybodaeth arbenigol mewn maes perthnasol, a phrofiad o ddatblygu polisïau a strategaethau o fewn y maes.
• Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn.
Cymhwysterau hanfodol:
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
• Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gyfatebol, mewn pwnc perthnasol.
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol
• Barn a meddwl clir o ran dyrannu adnoddau ac ymateb i alwadau sy'n cystadlu â'i gilydd, a'r gallu i wneud penderfyniadau doeth mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif sy'n newid yn gyflym.
• Sgiliau cyfathrebu, sensitifrwydd a'r bersonoliaeth i ennyn ymddiriedaeth a hyder Aelodau ac uwch-swyddogion eraill.
• Sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel i ddeall a beirniadu polisi cymhleth a deunydd deddfwriaethol.
• Sgiliau drafftio a chyflwyno rhagorol i gyflwyno materion cymhleth ac opsiynau polisi yn glir, yn gryno ac yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
• Lefel uchel o ymwybyddiaeth wleidyddol a'r gallu i deilwra cynnyrch i anghenion a blaenoriaethau'r Aelod.
• Dealltwriaeth o waith y Senedd a gwaith Aelodau o'r Senedd.
• Y gallu i weithio ar y cyd fel rhan o dîm bach.
Meini prawf dymunol
• Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a'r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru.
• Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
• Yn arddel amcanion a gwerthoedd y blaid.
• Profiad blaenorol o weithio i Aelod o’r Senedd, Aelod Seneddol neu Aelod o Senedd Ewrop.