Siambr

Siambr

Aelod o Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Cyhoeddwyd 11/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Aelod o Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd 

Penodiadau lluosog 

Lleoliad: Hybrid: Caerdydd 

Tâl - £310 y dydd 

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, a sefydlwyd yn 2010, yn gorff annibynnol statudol gyda’r nod o sicrhau proses agored a thryloyw ar gyfer pennu tâl Gweinidogion Cymru, Aelodau o’r Senedd, staff yr Aelodau, ac adnoddau ariannol eraill.   

Rydym yn chwilio am Aelodau newydd i ymuno â’r Bwrdd ac i sicrhau bod penderfyniadau annibynnol yn cael eu gwneud ar dâl a chymorth uniongyrchol i Aelodau o’r Senedd.  Gan weithio fel rhan o’r Bwrdd, byddwch yn chwarae ran yn cefnogi’r Senedd i ddenu ystod eang o ymgeiswyr galluog ac amrywiol tra’n sicrhau gwerth am arian i bobl Cymru; mae'r Bwrdd yn chwarae rhan hanfodol o ran cynnal ffydd y cyhoedd yn ein system ddemocrataidd.  

Gyda newidiadau mawr ar y gweill i’r Senedd, mae hwn yn amser arbennig o ddiddorol i ymuno â’r Bwrdd. Bydd Etholiad Cyffredinol nesaf Cymru ym mis Mai 2026 yn gweld system etholiadol newydd gydag etholaethau aml-aelod newydd, cynnydd yn nifer yr Aelodau o 60 i 96 a newidiadau yn y modd y gellir trefnu busnes y Senedd. 

Gan ddefnyddio eich hygrededd, eich arbenigedd a'ch uniondeb personol, byddwch yn edrych ar bethau mewn ffordd annibynnol, teg eich meddwl a chadarn.  Byddwch yn gallu defnyddio eich syniadau strategol a’ch sgiliau cyfathrebu rhagorol i gyfrannu at benderfyniadau ar y cyd.  Mae ymrwymiad i gydraddoldeb, cynaliadwyedd ac amrywiaeth a chynhwysiant, a dealltwriaeth ohonynt, yn hanfodol.  

 

Profiad 

Rydym yn chwilio am aelodau newydd i’r Bwrdd sy’n cynnig sgiliau, safbwyntiau a chefndir ategol, ac ar gyfer swydd wag i ddechrau ar unwaith rydym yn chwilio am rywun â phrofiad gwleidyddol fel cyn wleidydd etholedig.  Mae'r Bwrdd yn gweithredu â chadeirydd a phedwar aelod.   Mae’n debygol y byddwch yn cynnig profiad a gwybodaeth mewn un neu fwy o’r canlynol: 

 

  • profiad seneddol drwy fod wedi gweithredu ar lefel uwch mewn rôl berthnasol 
  • profiad o fywyd cyhoeddus yng Nghymru - naill ai'n uniongyrchol neu drwy fod wedi gweithredu ar lefel arwain uwch mewn rôl berthnasol 
  • gwybodaeth a phrofiad penodol o waith adnoddau dynol, taliadau, pensiynau neu faterion cysylltiedig, yn enwedig o safbwynt cyflogau yn y sector cyhoeddus, a chan gynnwys profiad o gyrff adolygu cyflogau 
  • profiad a chymwysterau archwilio, profiad a chymwysterau cyfreithiol a phrofiad a chymwysterau llywodraethu 
  • cyfathrebu ac ymgysylltu  
  • profiad o waith academaidd, ymchwil neu bolisi cyhoeddus mewn maes perthnasol 

 

Rydym wedi ymrwymo’n arbennig i gefnogi ceisiadau gan unigolion o gefndiroedd neu grwpiau cymdeithasol heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.   

Os yw’r syniad o fod yn rhan o dîm ymroddedig lle bydd eich dylanwad a’ch profiad yn cael eu parchu a’u defnyddio yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu bod gennych chi’r sgiliau a’r profiad i’n helpu i gyflawni ein gweithgareddau allweddol, byddem yn falch iawn o glywed gennych.  

Dylech anfon cais ar ffurf CV a datganiad ategol sy’n amlinellu eich cymhelliant dros wneud cais am y rôl a sut rydych yn bodloni’r fanyleb person (dim mwy na dwy ochr A4 o hyd) erbyn hanner nos dydd Sul 1 Rhagfyr fan bellaf i fizza.islam@LHH.com 

I gael trafodaeth gyfrinachol, anffurfiol am y rôl, neu i ofyn am becyn gwybodaeth i ymgeiswyr, cysylltwch â LHH Penna yn uniongyrchol ar +44 (0)141 220 6460 neu e-bostiwch y cyfeiriad uchod.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i’r porth a ganlyn: https://execroles.penna.com/ 

Pecyn Gwybodaeth

Datganiad o'r Broses gany Prid Weithredwr a Chlerc y Senedd

Gwenewch gais nawr