Datganiad o'r Broses gan y Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Cyhoeddwyd 11/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2024

Recriwtio ar gyfer swyddi gwag ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd 

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn gorff annibynnol statudol â’r nod o sicrhau proses agored a thryloyw ar gyfer penderfynu ar daliadau Gweinidogion Cymru, Aelodau o’r Senedd, staff yr Aelodau, ac adnoddau ariannol eraill.   Mae’r Bwrdd â rhan hanfodol wrth gynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein system ddemocrataidd.   

Heddiw, rwy’n lansio ymgyrch recriwtio i chwilio am Aelodau newydd i ymuno â’r Bwrdd. Fy nod yw sicrhau bod y Bwrdd, yn ei gyfanrwydd, yn cynnwys aelodau ag ystod o sgiliau a chefndiroedd sy’n cyd-fynd â’i gilydd.  

Mae'r Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd a phedwar aelod.  Gellir penodi aelodau'r Bwrdd am hyd at ddau gyfnod 5 mlynedd. Rwy’n rhagweld y bydd tair swydd wag o fewn y 12 mis nesaf.  

Mae gan y Bwrdd un swydd wag ar hyn o bryd, yn dilyn ymddiswyddiad y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Hanson o'r Fflint. Ar gyfer y swydd wag hon, rydym yn chwilio am aelod o’r Bwrdd sydd â phrofiad gwleidyddol fel cyn-wleidydd etholedig. Bydd gan y Bwrdd ddwy swydd wag yn y dyfodol pan ddaw cyfnod dau aelod o'r Bwrdd i ben ym mis Medi 2025.  

Yn unol â pharagraffau 1-4 o Atodlen 2 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, ar ôl ystyried materion perthnasol, rwyf o’r farn bod aelodau presennol y Bwrdd, y byddai eu cyfnod cyntaf fel arall yn dod i ben ym mis Medi 2025, gan gynnwys y Cadeirydd, yn gymwys i gael eu penodi am ail gyfnod, ac nad oes angen iddynt gyflwyno cais.   

Pan fydd y broses recriwtio bresennol wedi dod i ben, byddaf yn rhoi gwybod i Gomisiwn y Senedd - 

 

  1. enw'r person sydd, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi'n Gadeirydd; 
  2. enw'r person sydd wedi'i ddewis i gymryd y swydd wag bresennol fel aelod o’r Bwrdd; 
  3. enwau personau sydd wedi’u dewis, yn unol â’r trefniadau hyn, i fod yn aelodau o’r Bwrdd pan fydd swyddi gwag yn codi ym mis Medi 2025; 
  4. enwau aelodau presennol y Bwrdd a fydd yn cael eu penodi am ail gyfnod. 

 

Mae’n ofynnol i Gomisiwn y Senedd benodi’n Gadeirydd, ac yn aelodau o’r Bwrdd (yn ôl y gofyn) y rhai y mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi nodi eu henwau iddynt. 

Bydd y panel dethol yn asesu CVs ymgeiswyr a datganiadau Ategol i benderfynu pwy sy'n bodloni'r meini prawf orau ar gyfer y rôl a phwy fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad. 

Caiff y panel ei gadeirio gennyf i a bydd hefyd yn cynnwys cynrychiolydd allanol neu annibynnol ac aelod o blith Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn. 

Bydd y Panel yn rhoi sylw dyladwy i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal.   

Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw am 12 mis. 

Ceir disgrifiad swydd a manylion am y broses ymgeisio yma: 

https://execroles.penna.com/ 

 

Manon Antoniazzi 

Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd