Sefyll i fod yn Aelod Senedd

Cyhoeddwyd 04/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2026   |   Amser darllen munudau

Etholiadau'r Senedd - Gwybodaeth i Ymgeiswyr 

Nod y dudalen hon yw rhoi trosolwg o rolau a chyfrifoldebau Aelod o'r Senedd, er mwyn helpu ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd i baratoi ar gyfer y swydd. Mae'n egluro beth sy'n digwydd yn syth ar ôl yr etholiad, ac yn crynhoi'r cymorth a'r canllawiau a fydd ar gael i’r ymgeiswyr sy’n cael eu hethol.

Am ganllawiau manwl a phendant i ymgeiswyr, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Rolau Aelodau o'r Senedd 

Mae gan Aelodau o'r Senedd rôl bwysig ac unigryw o ran cynrychioli pobl Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Mae Aelodau'n cynrychioli buddiannau'r unigolion sy'n byw yn yr etholaethau maen nhw wedi cael eu hethol i'w chynrychioli, ac maen nhw’n ymgysylltu’n rheolaidd â'r cyhoedd trwy gyfarfodydd, galwadau ffôn, gohebiaeth, a chymorthfeydd.

Mae Aelodau’n cyfarfod yn y Senedd ym Mae Caerdydd i drafod y materion sydd o bwys i Gymru a'i phobl. Bydd yr Aelodau’n cyfarfod yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos, ac yno byddant yn gofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, yn cynnal dadleuon ar faterion megis polisïau'r Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau, ac yn craffu ar gyfreithiau Cymreig. Gall gwrthbleidiau arwain dadleuon ar faterion o’u dewis, a gall Aelodau unigol fynd ar drywydd materion sydd o bwys iddyn nhw a’r bobl sydd wedi eu hethol.

Bydd Aelodau hefyd yn cyfarfod ym mhwyllgorau’r Senedd, sy’n edrych yn fanwl ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith, yn trafod cyfreithiau arfaethedig, ac yn ymchwilio i faterion sydd o bwys i bobl Cymru.

Cymwysterau ar gyfer bod yn Aelod o'r Senedd

Rhaid i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd fod yn gymwys i fod yn Aelodau, a hynny drwy fodloni gofynion megis oedran, dinasyddiaeth a phreswyliad.

Rhaid i chi hefyd sicrhau nad ydych chi wedi'ch gwahardd rhag bod yn Aelod. Mae ystod lawn yr anghymwysiadau yn gymhleth. Maent yn cynnwys, er enghraifft, bobl sydd â swyddi penodol, pobl a ddyfarnwyd yn fethdalwyr, a phobl a gafwyd yn euog o droseddau penodol.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol o ran:

  1. a gewch chi fod yn ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd; neu
  2. a gewch chi fod yn Aelod o’r Senedd;

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi canllawiau llawn i ymgeiswyr ac asiantau ynghylch etholiadau’r Senedd. Mae’r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr hyn sy’n gymwys ac yn anghymwys o ran sefyll etholiad ac o ran bod yn Aelod o’r Senedd.

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd ei hun yw sicrhau nad yw'n anghymwys i sefyll etholiad neu i fod yn Aelod o'r Senedd. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech edrych ar yr holl ddeddfwriaeth berthnasol a/neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol. 

Caiff gwiriadau anghymhwyso eu cynnal fel rhan o broses enwebiadau’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer ymgeiswyr. Os cewch eich ethol, gofynnir i chi hefyd gadarnhau nad ydych wedi'ch anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd cyn y gallwch dyngu'r llw. Mae hyn am fod rhai swyddi yn caniatáu i chi sefyll fel ymgeisydd, ond rhaid ymddiswyddo ohonynt cyn y gallwch ddod yn Aelod. Er enghraifft, bydd rhaid i aelodau cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru sy'n cael eu hethol yn etholiad y Senedd a drefnwyd ar gyfer 7 Mai 2026 ymddiswyddo cyn tyngu’r llw fel Aelodau o'r Senedd i osgoi cael eu hanghymwyso.

Digwyddiadau croeso

Mae gofyn i Aelodau o’r Senedd dyngu llw teyrngarwch neu roi cadarnhad cyfatebol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl iddynt gael eu hethol. Hyd nes y bydd Aelod wedi tyngu'r llw neu wedi rhoi’r cadarnhad, ni chaiff wneud dim fel Aelod o’r Senedd heblaw cymryd rhan yn y broses o ethol y Llywydd neu’r Dirprwy Lywydd(ion). 

Os cewch eich ethol, fe gewch lythyr sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer ymuno â digwyddiadau croeso'r Senedd a gynhelir pan fydd canlyniadau’r etholiad yn hysbys. Yn y digwyddiadau hyn, byddwch yn gallu tyngu’r llw neu roi’r cadarnhad gerbron Clerc y Senedd. Gofynnir i chi hefyd gwblhau rhai gweithgareddau fydd yn eich galluogi i ddechrau gweithio cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn cynnwys briffiau hanfodol ar eich rôl a'ch cyfrifoldebau newydd, yn ogystal â chamau ymarferol megis eich sefydlu ar ein systemau cyflogres a TGCh.

Ar ddiwedd y broses ymsefydlu gychwynnol, bydd rhaglen lawn o hyfforddiant a chymorth yn dechrau yn yr wythnos sy’n dilyn yr etholiad gan gwmpasu pob agwedd ar y rôl, o sgiliau seneddol, i gefnogi etholwyr, sefydlu swyddfeydd, a dod yn gyflogwr. 

Ymddygiad, Rheolau a Chanllawiau 

Mae gwaith yr Aelodau yn cael ei lywodraethu gan fframwaith o reolau a dogfennau canllaw. Mae hyfforddiant a chymorth er mwyn deall y rheolau a'r safonau hyn yn flaenoriaeth uchel yn y rhaglen groeso ar gyfer Aelodau newydd ac Aelodau sy'n dychwelyd. 

Mae rhai wedi cael eu diweddaru yn barod ar gyfer dechrau'r Seithfed Senedd. Nodir y rhain isod.

Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd 

Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan bob Aelod o'r Senedd. Mae'r Cod newydd yn cynnwys rheolau mwy cadarn ynglŷn ag urddas a pharch, gofynion uwch o ran cofrestru a datgan buddiannau, a disgwyliadau cliriach o ran atebolrwydd personol. Mae hefyd yn adlewyrchu gwaith y Pwyllgor Safonau mewn perthynas â chyflwyno mwy o annibyniaeth a chymorth i'r drefn gwyno, gan sicrhau ei bod yn deg, yn hygyrch ac yn ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd.

Gall unrhyw un sy'n credu nad yw Aelod wedi bodloni'r safonau hyn wneud cwyn i Gomisiynydd Safonau Ymddygiad y Senedd, sy'n gweithredu'n annibynnol er mwyn cynnal a hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad. Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn cynghori'r Senedd ar y Cod Ymddygiad a'r canllawiau cysylltiedig ac yn ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau.

Cafodd y Cod Ymddygiad diwygiedig ei fabwysiadu gan y Senedd ar 18 Mawrth 2026 a bydd ar waith o ddechrau'r Seithfed Senedd. 

Cofrestru a Datgan Buddiannau 

Rhaid i bob Aelod gofrestru a datgan unrhyw fuddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yn unol â Rheolau Sefydlog y Senedd. Cafodd canllawiau diwygiedig eu cymeradwyo gan y Senedd ar 18 Mawrth 2026 i gyflwyno prosesau cliriach ar gyfer cofrestru, datgan a chofnodi buddiannau yn y Seithfed Senedd. 

Y Penderfyniad ar Gostau Aelodau o ran Cyflog, Staff a Busnes

Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yw’r corff statudol sy’n gyfrifol am bennu’r cyflogau, y pensiynau a’r lwfansau sydd ar gael i Aelodau. Mae'r Bwrdd yn annibynnol ar y Senedd a’i Haelodau. 

Mae'r Bwrdd Taliadau yn cyhoeddi Penderfyniad sy'n nodi'n fanwl yr adnoddau sydd ar gael i Aelodau, gan gynnwys costau recriwtio staff a sefydlu swyddfeydd. Bydd Penderfyniad newydd yn gymwys o ddechrau'r Seithfed Senedd.

Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i Aelodau pryd bynnag y byddant yn defnyddio adnoddau'r Senedd. Mae adnoddau’r Senedd yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd, ac adnoddau a ddarperir o dan y Penderfyniad, gan gynnwys Staff Cymorth. Daw’r rheolau a chanllawiau wedi'u diweddaru i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd.

Rheolau Sefydlog

Mae rheolau a gweithdrefnau'r Senedd wedi’u nodi yn y Rheolau Sefydlog, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru (2006), ac fe’u gorfodir gan y Llywydd, sef yr awdurdod uchaf yn y Senedd. 

Cyhoeddir manylion y rheolau a'r canllawiau cyfredolar wefan y Senedd.

Staff Cymorth yr Aelodau

Caiff Aelodau gyflogi staff i'w cynorthwyo gyda'u dyletswyddau yn unol â Phenderfyniad y Bwrdd Taliadau. Mae pob Aelod yn cyflogi ei staff cymorth yn uniongyrchol. Felly, wrth gyflogi staff cymorth, bydd Aelodau hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldebau cyflogwr. 

Darperir cyngor, hyfforddiant a chymorth ar gyfer recriwtio a rheoli staff i Aelodau fel rhan o'r pecyn hyfforddi â blaenoriaeth yn dilyn yr etholiad. 

Cymorth gan y Comisiwn

Comisiwn y Senedd yw'r corff corfforaethol sy'n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau'n cael eu darparu i’r Senedd.  Mae Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o grwpiau gwleidyddol gwahanol.

Mae staff y Comisiwn yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i Aelodau, gan gynnwys cyngor amhleidiol, arweiniad a chymorth ymarferol.

Mae gwasanaethau'r Comisiwn yn cynnwys:

  • Cymorth ar gyfer Busnes y Senedd (y Cyfarfod Llawn a phwyllgorau);
  • Gwasanaethau Aelodau megis datblygiad proffesiynol parhaus, mynediad at gymorth ariannol, ac arweiniad i'r Aelodau fel cyflogwyr.
  • Cyfieithu a chyfieithu ar y pryd;
  • Cymorth a gwasanaethau TGCh;
  • Gwasanaethau diogelwch, digwyddiadau ac ystadau; a
  • Chyfathrebu, gan gynnwys Allgymorth ac Addysg.

Swyddfeydd 

Ystad y Senedd yw tri adeilad ym Mae Caerdydd (y Senedd, Tŷ Hywel a'r Pierhead), a swyddfa yng Nghyffordd Llandudno.

Darperir swyddfa i bob Aelod o'r Senedd yn Nhŷ Hywel. Hefyd, mae’r Penderfyniad yn cynnwys darpariaethau i dalu costau sefydlu a rhedeg swyddfeydd yn etholaethau’r Aelodau. Darperir gwybodaeth a chyngor i Aelodau i'w helpu i ddewis safleoedd priodol ac i ddeall y gofynion ar gyfer hawlio costau cysylltiedig.

Ieithoedd swyddogol 

Mae’r Senedd yn sefydliad cwbl ddwyieithog. Ieithoedd swyddogol y Senedd yw Cymraeg a Saesneg ac mae’r ddwy yn cael eu trin yn gyfartal. Gall Aelodau a staff ddewis gweithio yn y naill iaith neu'r llall, neu'r ddwy. 

Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi'r hyn y mae'r Senedd yn ei ddarparu yn ddwyieithog, a’r gwasanaethau iaith y mae'n anelu at eu darparu. Bydd pob Senedd yn mabwysiadu cynllun newydd, a hynny’n seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. Mae cymorth a chyngor ar gael i helpu Aelodau i gydymffurfio â gofynion y Cynllun ac i alluogi Aelodau a'u staff i weithio yn eu dewis iaith.

Cydraddoldeb

Mae Aelodau o'r Senedd yn ddeiliaid swyddi cyhoeddus ac yn gyflogwyr. Gan hynny, maent yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth cydraddoldeb, gan gynnwys dyletswyddau penodol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r Comisiwn yn rhoi cyngor ac arweiniad i Aelodau ar fodloni'r gofynion hynny. Ar ben hynny, mae cymorth a gwasanaethau ar gael i Aelodau’n uniongyrchol, i ateb eu hanghenion unigol eu hunain a sicrhau bod y Senedd yn lle cynhwysol a hygyrch i weithio.

Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaethau. Mae Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Comisiwn y Senedd yn egluro sut y bydd y Comisiwn yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn parchu amrywiaeth, ac yn canfod a chwalu’r rhwystrau posibl i gydraddoldeb ar gyfer ein staff, yr Aelodau a'u staff, a'r cyhoedd. 

Diogelwch

Mae Tîm Diogelwch y Senedd yn gweithio gydag uned heddlu’r Senedd ar y safle i ddarparu cymorth diogelwch i’r Aelodau a'u staff. Mae hyn yn cynnwys mesurau diogelwch tra byddant ar ystad y Senedd, yn ogystal â chyngor, canllawiau ac adnoddau ar gyfer rheoli diogelwch yr Aelodau yn eu cartrefi ac yn y gymuned. Darperir gwybodaeth lawn fel rhan o'r digwyddiadau croeso a'r rhaglen hyfforddi barhaus ar gyfer Aelodau newydd.

Mae canllawiau ar wahân ar gael i ymgeiswyr yn ymwneud â diogelwch wrth ymgyrchu – gallwch ddarllen mwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol. 

Rhagor o wybodaeth

Darperir gwybodaeth a chymorth pellach i Aelodau ar bob agwedd ar eu rôl fel Aelodau o’r Senedd ar ôl iddynt dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: hwb@senedd.cymru