Y cymorth sydd ar gael i chi: gwneud cwyn neu roi gwybod am ddigwyddiad

Cyhoeddwyd 03/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Gall gwneud cwyn neu roi gwybod am ddigwyddiad fod yn broses sy’n heriol yn emosiynol. Fe’ch anogwn i gysylltu â phwy bynnag sy'n briodol yn eich barn chi. Mae rhestr o awgrymiadau isod i'ch cynorthwyo a'ch cefnogi. 

Os byddwch yn gwneud cwyn neu’n rhoi gwybod am ddigwyddiad

Os byddwch yn teimlo y byddech yn elwa o gymorth gan ymarferydd meddygol, cysylltwch â'ch meddyg teulu. 

Efallai y byddwch yn teimlo y bydd angen cymorth wyneb yn wyneb parhaus arnoch i'ch cefnogi chi'n emosiynol yn ystod ymchwiliad i gŵyn. Siaradwch am hyn gyda ni pan fyddwch yn cysylltu â ni am y tro cyntaf fel y gallwn drefnu hyn. 

 

Os nad ydych chi’n gweithio yn y Senedd, efallai y byddwch hefyd am drafod y mater neu ofyn am gymorth gan:

  • eich rhaglen cymorth i weithwyr;
  • cynrychiolydd eich undeb llafur;
  • eich rheolwr, un o’ch cydweithwyr neu eich adran adnoddau dynol eich hun.

 

Os ydych chi’n gweithio yn y Senedd 

 

Swyddogion Cyswllt

Rydym yn cydnabod na fydd pawb sy’n dod ymlaen am ddefnyddio gweithdrefn gwyno ffurfiol o’r cychwyn - ac weithiau na fyddant am wneud hynny o gwbl. Os hoffech drafod eich pryderon neu gŵyn bosibl, gallwch siarad â’n Swyddogion Cyswllt hyfforddedig. Maent yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth yn gyfrinachol. 

Ni fydd Swyddogion Cyswllt yn chwarae rhan weithredol mewn cwyn. Fodd bynnag, byddant yn gallu: 

  • trafod eich pryderon gyda chi; 
  • rhoi cyngor i chi ar y ffordd briodol o wneud cwyn os mai dyna yr ydych am ei wneud, ac am yr hyn y gellir ei ddisgwyl os ydych yn gwneud cwyn ffurfiol; 
  • esbonio sut y caiff ymchwiliad ei gynnal; 
  • Rhoi cyngor i chi ar sut i gael unrhyw gymorth emosiynol y bydd ei angen arnoch - ni waeth a ydych chi'n gweithio yn y Senedd ai peidio. 

Mae’n ofynnol i Swyddogion Cyswllt lynu wrth yr hyn a nodir yn adran gyfrinachedd y polisi Urddas a Pharch. 

Ni fydd Swyddogion Cyswllt yn cofnodi nac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac ni fyddant yn datgelu eich enw chi, nac unrhyw fanylion a allai ddatgelu pwy ydych chi, i neb heb eich caniatâd. Os byddwch yn cysylltu â’n Swyddogion Cyswllt yn ysgrifenedig, dim ond hyd nes yr ymdrinnir â’ch ymholiad y cedwir y wybodaeth hon, ac yna bydd yn cael ei gwaredu’n ddiogel.

Bydd yn ofynnol i Swyddogion Cyswllt fonitro patrymau ymddygiad amhriodol y tynnir eu sylw atynt a byddant yn hysbysu Prif Swyddog Pobl Dros Dro y Senedd ynghylch hyn heb ddatgelu eich enw chi nac unrhyw fanylion a allai ddatgelu pwy ydych chi. Pan fo patrymau ymddygiad amhriodol yn ymwneud ag Aelodau unigol o’r Senedd neu grwpiau gwleidyddol, aelodau o staff neu dimau, bydd y Prif Swyddog Pobl Dros Dro y Senedd yn ystyried y materion ac yn rhoi gwybod amdanynt yn y modd priodol. Bydd y Pennaeth Adnoddau Dynol yn ymdrin â’r wybodaeth a geir gan Swyddogion Cyswllt yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac amserlen yr adran Adnoddau Dynol o ran cadw gwybodaeth. 

gallwch anfon neges e-bost at grŵp y Swyddogion Cyswllt sef dignityandrespect@senedd.cymru. Gallwch hefyd ffonio llinell ffôn y Swyddog Cyswllt ar 03002006145; os nad oes neb ar gael i gymryd eich galwad, gadewch neges a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl.

 

Atebir y llinellau ffôn rhwng 09.00 a 16.30, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond gallwch anfon neges e-bost unrhyw bryd. Os byddwch yn ffonio un o’n Swyddogion Cyswllt, mae’n bosibl y bydd rhaid iddynt eich ffonio yn ôl fel y gellir trafod y mater yn breifat. 

Mae Swyddogion Cyswllt ar gael sy’n siarad Cymraeg a Saesneg; os byddai’n well gennych gyfathrebu yn y naill iaith neu’r llall, dylech nodi eich dewis iaith wrth gysylltu â ni.

Mae'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr ar 0800 174 319 ar gael i Aelodau o'r Senedd, staff yr Aelodau a’r grwpiau gwleidyddol a staff Comisiwn y Senedd. Bydd cynghorwyr hyfforddedig yn rhoi arweiniad a chefnogaeth emosiynol i chi. 

Gallwch gysylltu â Nyrs Iechyd Galwedigaethol y Senedd drwy’r Tîm Cymorth Busnes i Aelodau neu’r adran Adnoddau Dynol. 

 

Mathau eraill o gymorth sydd ar gael

Staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd:

Eich adran Adnoddau Dynol; cynrychiolydd eich undeb llafur; cydweithiwr neu reolwr.

 

Staff a gyflogir gan Aelodau o'r Senedd neu’r grwpiau gwleidyddol:

Cymorth Busnes i’r Aelodau; eich cyflogwr, cydweithiwr neu reolwr; cynrychiolydd eich undeb llafur; eich rheolwr busnes neu’ch plaid wleidyddol. 

 

Aelodau o’r Senedd:

Cymorth Busnes i’r Aelodau; eich rheolwr busnes neu’ch plaid wleidyddol; cynrychiolydd eich undeb llafur; cydweithiwr.

I drafod unrhyw un o'r materion hyn yn breifat, cysylltwch â:

Phennaeth y Tîm Cymorth Busnes i Aelodau 0300 200 7577

 

Rhagor o gymorth

Mae'r Samariaid yno i helpu pan fyddwch chi’n profi iselder, yn teimlo wedi eich gorlethu neu’n cael meddyliau negyddol. Nid dim ond pobl sy’n meddwl am hunanladdiad y maent yn eu helpu, ond os ydych chi’n cael meddyliau o’r fath, fe’ch anogwn yn gryf i gysylltu â nhw ar frys. Eu rhif ffôn yw 116 123 ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

 

Y cymorth sydd ar gael os oes honiad wedi ei wneud yn eich erbyn (a'ch bod yn gweithio yn y Senedd)