Gwneud cwyn os nad y Senedd nag Aelod o'r Senedd sy’n eich cyflogi

Cyhoeddwyd 12/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn Aelod o'r Senedd

Dewiswch opsiwn A neu B.

Opsiwn A Adrodd yn uniongyrchol i Gomisiynydd Safonau annibynnol y Senedd.

Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r Comisiynydd Safonau yn breifat a chyfrinachol. Fodd bynnag, os bydd y Comisiynydd yn ymchwilio, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Os yw'r Comisiynydd Safonau yn credu bod digon o sylwedd i gyfiawnhau ymchwiliad pellach, caiff eich cwyn ei hymchwilio'n llawn a chyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cewch wybod beth sy'n digwydd, a gellir eich gwarchod rhag i'ch enw gael ei gyhoeddi.

Opsiwn B. Cysylltu â'r blaid wleidyddol berthnasol.

Bydd pob plaid wleidyddol yn dilyn ei gweithdrefnau ei hun. Cysylltwch â'r blaid berthnasol am fanylion y broses. Os nad yw'r Aelod yn gysylltiedig â phlaid wleidyddol, ni fydd yr opsiwn hwn yn berthnasol ac rydych yn parhau i fod yn rhydd i ddilyn Opsiwn A.

Ar unrhyw adeg, gallwch newid eich meddwl ac adrodd eich cwyn i'r Comisiynydd Safonau. Efallai y bydd angen i chi ddilyn rhai gweithdrefnau ychwanegol o ganlyniad i newid llwybr eich cwyn.

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn staff a gaiff eu cyflogi gan Aelodau o'r Senedd neu Grwpiau Gwleidyddol

Adrodd i'r Aelod o'r Senedd sy'n cyflogi. Mater i'r Aelod o'r Senedd sy'n cyflogi fydd ystyried y gŵyn a sut i'w thrin.

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn staff a gaiff eu cyflogi gan Gomisiwn y Senedd

Adrodd i Adran Adnoddau Dynol y Senedd.

Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn.

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn contractwyr neu gynghorwyr allanol sy'n darparu gwasanaethau i'r Senedd

Adrodd i'r Pennaeth Caffael.

Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, efallai y gofynnir i'r unigolyn dan sylw beidio â gwneud gwaith pellach ar ein rhan.