Fersiwn 5.0
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefannau canlynol y Senedd y maent oll yn rhannu llwyfan cyffredin a threfniant dyluniad sylfaenol:
- business.senedd.wales | busnes.senedd.cymru
Ceir datganiadau ar wahân ar gyfer gwefannau eraill Senedd Cymru, gan gynnwys:
- petitions.senedd.wales | deisebau.senedd.cymru
- senedd.wales | senedd.cymru
- research.senedd.wales | ymchwil.senedd.cymru
- youthparliament.senedd.wales | seneddieuenctid.senedd.cymru
Senedd Cymru sy'n rheoli’r gwefannau hyn. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwefannau hyn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau;
- chwyddo hyd at 400% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin;
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, heblaw am weithredu rhai hidlyddion ar y dudalen 'Chwilio';
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan drwy ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
1. Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
- Mae adrannau ar draws y Comisiwn yn rhoi datganiadau sicrwydd blynyddol, sy’n gallu cynnwys y gwaith y maent yn ei wneud i wella hygyrchedd.
- Mae canllawiau sylfaenol ar gyfer derbyn dogfennau trydydd parti i'w cyhoeddi wedi'u rhoi ar waith. Rhannwyd y canllawiau hyn yn rhagweithiol â'n darparwyr dogfennau rheolaidd a chânt eu rhannu ag eraill yn ôl yr angen.
- Mae holl olygyddion gwe'r Comisiwn yn cael hyfforddiant sylfaenol ar hygyrchedd gwe fel rhan o'r cyfnod cynefino i'r rôl hon. Cynigir rhagor o hyfforddiant hygyrchedd i'r rhai y mae eu rolau’n cynnwys gwaith datblygu technegol a nodweddion ar gyfer ein gwefan.
- Mae’r holl gynnwys fideo newydd a gynhyrchir yn fewnol ac a ddarperir ar gyfer ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi gydag isdeitlau
- Rydym wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu ein hasedau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol.
- Mae gan Civica (Modern.Gov), sef cyflenwr ein datrysiadau meddalwedd rheoli busnes sylfaenol, raglen o welliannau parhaus ar gyfer ei gynnyrch craidd ac mae wedi ein sicrhau bod y swyddogaeth sylfaenol yn cydymffurfio â safon 2.1 AA WCAG. Roedd y methiannau a grybwyllir isod oll yn ymwneud ag ansawdd y cynnwys a gyflwynwyd neu nodweddion trydydd parti a gariwyd ar draws o'n brand corfforaethol cyson.
- Cafodd archwiliad o hygyrchedd ei gwblhau ym mis Mawrth 2024. Rydym wrthi’n gweithredu’r canfyddiadau a’r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad archwilio.
Mynediad at gynnwys mewn fformat amgen
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain, dehongliad BSL neu Braille:
- E-bostiwch contact@senedd.cymru
- Ffoniwch 0300 200 6565
- Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfnewid Iaith Arwyddion Prydain drwy InterpretersLive!
- Ysgrifennwch atom yn Senedd Cymru, Bae Caerdydd CF99 1SN
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn pum diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen yn https://senedd.cymru/cysylltu neu anfonwch neges atom yn cysylltu@senedd.cymru.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
2. Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Rydym wedi ymrwymo i wneud gwefannau’r Senedd yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â’r Canllawiau ar Hygyrchedd y We fersiwn 2.2 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio â’r safon AA erbyn diwedd mis Mai 2026 ar gyfer yr holl gynnwys gweithredol a gynhyrchir yn fewnol gan y Senedd.
3. Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw priodoleddau testun amgen yn bresennol ar gyfer rhai delweddau y rhoddir lincs iddynt;
- nid yw defnyddwyr Dragon Naturally Speaking yn gallu rhyngweithio â rhai opsiynau hidlo chwilio;
- yr hysbysiad cwcis weithiau yw'r elfen olaf yn y drefn tabio;
- cyhoeddir rhywfaint o gynnwys ddwywaith wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin
4. Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau a ganlyn.
Mae’r Senedd yn cael dogfennau a gynhyrchir gan gyrff allanol y mae’n rhaid i ni, mewn llawer o achosion, eu derbyn i’w cyhoeddi. Er ein bod yn cynghori'r cyrff hyn ar hygyrchedd eu cyflwyniadau, dan yr amgylchiadau hyn mae'n rhaid inni gyhoeddi'r deunyddiau fel y'u cafwyd. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ymdrechu i’w wella, ac rydym yn archwilio dulliau gwell o dderbyn dogfennau a geir gan gyrff allanol.
Diffyg cydymffurfio â'r canllawiau hygyrchedd
- Ni ddarperir enwau hygyrch na'u rhoi yn anghywir i'r rhan fwyaf o gynnwys nad yw'n destun fel delweddau addurniadol, delweddau y mae lincs iddynt, meysydd a botymau mewnbynnu ffurflenni. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
- Mae problemau cyferbyniad yn bresennol mewn dogfennau PDF. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.4.3 cyferbyniad (isafswm) WCAG 2.1.
- Ni ddarperir dewisiadau amgen ar gyfer cynnwys nad yw’n destun yn gywir ar gyfer PDFs. Nid oes gan ddelweddau a ffigurau oddi mewn werth testun amgen, ac nid yw cynnwys arall nad yw'n destun wedi'i dagio. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.1.1 cynnwys nad yw’n destun WCAG 2.1.
- Nid yw strwythurau rhestrau a thablau mewn PDFs wedi'u marcio mewn ffordd sy'n eu hamlygu i dechnolegau cynorthwyol. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 1.3.1 gwybodaeth a pherthynas WCAG 2.1.
- Nid yw nodau tudalen PDF yn gyfochrog â strwythur y ddogfen. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 2.4.1 blociau osgoi WCAG 2.1.
- Nid yw iaith dogfennau PDF wedi'i diffinio; gall hyn ddylanwadu ar y ffordd y mae meddalwedd darllen sgrin yn cyhoeddi testun. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.1.1 iaith y dudalen WCAG 2.1.
Ar hyn o bryd rydym yn treialu prosesau newydd gyda’r darparwyr trydydd parti sy’n anfon y rhan fwyaf o’r dogfennau PDF hyn i sicrhau eu bod yn bodloni ein meini prawf hygyrchedd pan fyddant yn cyflwyno dogfennau i ni i’w cyhoeddi.
Materion eraill
- Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Rydym wrthi’n gwella hygyrchedd y rhain neu’n disodli'r rhain â HTML lle y mae hynny'n bosibl.
- Mae diffyg testun amgen ar rai delweddau. Rydym yn gweithio i sicrhau bod testun amgen ar gael ar ddelweddau newydd a gyhoeddir gennym drwy roi arweiniad a hyfforddiant i staff lle bo angen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1 (Cynnwys nad yw’n destun).
- Nid yw disgrifiadau sain yn bresennol ar gyfer fideos a recordiwyd ymlaen llaw. Ar hyn o bryd nid ydym yn rhoi disgrifiad sain o gynnwys ein fideos a recordiwyd ymlaen llaw fel mater o drefn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.2.3 mewn perthynas â Disgrifiad Sain neu Gyfrwng Amgen (Wedi'i recordio ymlaen llaw). Rydym yn archwilio opsiynau o ran sut i wneud hyn yn bosibl drwy ein platfform cynnwys ar-alw, Senedd TV.
- Nid yw trawsgrifiad testun yn bresennol yn gyson ar bob fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Mae fideos byr a grëwyd gan Gomisiwn y Senedd, sydd wedi'u hymgorffori yn y wefan drwy YouTube ar ôl 2019 yn cynnwys is-deitlau, ac mae trawsgrifiadau testun ar gyfer y fideos hyn ar gael ar gais. Rydym yn gweithio gyda darparwyr cynnwys fideo allanol i gyflawni'r un safon ar gyfer y cynnwys maen nhw'n ei ddarparu.
- Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut y gallwn ddarparu capsiynau ar y sgrin ar gyfer cynnwys Senedd TV. Ar hyn o bryd mae capsiynau awtomatig yn bosibl drwy borwyr Google Chrome a Microsoft Edge, fodd bynnag, dim ond yn Saesneg y mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd.
- Mae trawsgrifiadau cyfarfodydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor y Senedd a’r Cyfarfod Llawn a oedd wedi’u ffrydio’n fyw yn flaenorol drwy’r Cofnod.
Esemptiadau
I ddechrau, aseswyd y canlynol fel rhai nad oeddent yn cydymffurfio ond cred y Senedd fod y cynnwys wedi'i eithrio o ofynion WCAG 2.2.
Iaith Cymraeg
- Nid yw’r testun Cymraeg wedi'i ddiffinio'n gywir, a all achosi i raglenni darllen sgrin gyhoeddi cynnwys yn anghywir. Mae hwn yn fethiant ar ran maen prawf llwyddiant 3.1.2 iaith rhannau WCAG 2.1.
- Mae'r methiant hwn a aseswyd yn ymwneud â defnydd y Senedd o eiriau â tharddiad Cymraeg fel Senedd, Neuadd, Cwrt, Cofnod a Llywydd.
- Mae'r Senedd yn trin y geiriau/ymadroddion hyn fel “enw priod” a “rhan o iaith frodorol” Saesneg ac, felly, nid oes angen eu marcio ar wahân fel testun Cymraeg ar dudalen Saesneg.
- Yn y sefyllfa hon credwn fod y geiriau hyn wedi'u heithrio o'r gofyniad hwn gan y dylid eu hystyried yn rhan o'r testun Saesneg ar y dudalen.
- Pan brofwyd tudalennau a oedd yn cynnwys y geiriau hyn drwy ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin JAWS, darllenwyd y rhan fwyaf o'r geiriau hyn yn llwyddiannus gan y llais Saesneg diofyn. Yr unig eithriad oedd Cwrt, y gwnaeth y feddalwedd ei sillafu i'r defnyddiwr.
Baich anghymesur
Mae ein gwefan yn cynnwys dogfennau archif PDF sy'n rhan o gofnod cyhoeddus Busnes y Senedd. Mae'n bosibl na fydd y dogfennau hyn yn bodloni safonau hygyrchedd presennol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 (enw, gwerth rôl) yn ôl WCAG 2.1.
Oherwydd nifer y dogfennau, ni fyddai'n ymarferol eu diwygio. Rydym wedi cynnal Asesiad Baich Anghymesur yn egluro ein rhesymau dros hyn.
Os bydd angen i ni ailwampio'r wybodaeth hon ar unrhyw adeg byddwn yn sicrhau bod unrhyw allbynnau newydd sy'n seiliedig ar y wybodaeth hon mor hygyrch ag y mae'r data gwreiddiol yn caniatáu.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ffeiliau PDF a dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd yn flaenorol os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau parhaus.
Gan fod llawer o'n dogfennau archif yn rhan o gofnod cyhoeddus Busnes y Senedd ni fyddai'n briodol diweddaru'r dogfennau hyn i fodloni'r safonau presennol. Maent yn cynrychioli'r wybodaeth fel yr oedd ar gael ar y pryd.
Hefyd mae’n rhaid i ni nodi bod gwefan y Senedd yn cynnwys nifer sylweddol o ddogfennau PDF y mae'n ofynnol i'r Senedd eu cyhoeddi pan ddeuant i law gan sefydliadau trydydd parti. Er y byddwn yn cynghori'r sefydliadau hyn ar arfer gorau nid oes gennym reolaeth lawn dros gynnwys nac ansawdd y dogfennau hyn a gyflwynir i'w cyhoeddi gan y Senedd.
Cyfryngau seiliedig ar amser wedi'u recordio ymlaen llaw
Nid yw trawsgrifiad testun yn bresennol yn gyson ar bob fideo a recordiwyd ymlaen llaw. Mae cyfryngau seiliedig ar amser wedi’u recordio ymlaen llaw, fel sain a fideo, a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020 wedi’u heithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut y gallwn ddarparu capsiynau ar y sgrin ar gyfer cynnwys Senedd TV. Ar hyn o bryd mae capsiynau awtomatig yn bosibl drwy borwyr Google Chrome a Microsoft Edge, fodd bynnag, dim ond yn Saesneg y mae'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd.
Fideo byw
Mae fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
5. Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 18/12/2025 i adlewyrchu'r cynnydd a wnaed ac i ddisodli fersiynau mawr blaenorol. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 18/12/2025.
Mae'r wefan, yn ei fformat presennol, wedi’i phrofi'n fewnol i gynhyrchu'r datganiad hwn. Mae'r profion hyn yn ategu'r profion ar rannau cydrannol a gynhaliwyd gan y trydydd partïon perthnasol (Zoonou a Civica).
Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU archwiliad o sampl cynrychioliadol o’n tudalennau, ac o’r sampl hwnnw cafodd nifer o faterion hygyrchedd cyffredin eu nodi a’u trwsio.
Cwblhawyd archwiliad hygyrchedd newydd ar gyfer ecosystem y wefan (gan gynnwys y safleoedd a gwmpesir gan y datganiad hwn) ym mis Mawrth 2024. Rydym wrthi’n gweithredu’r canfyddiadau a’r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad archwilio.
Gwnaethom ddefnyddio'r dull a ganlyn i benderfynu ar y sampl o dudalennau i’w profi - WCAG-EM.