Nadyn Preifatrwydd Biliau Aelodau (i Chwefror 2018)

Cyhoeddwyd 10/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2020   |   Amser darllen munudau

Dilys o 23 Awst 2017 i 20 Chwefror 2018

Defnyddio'ch ymateb i'r ym​​gynghoriad

Bydd y Cynulliad yn gwneud copïau caled a chopïau electronig o'ch ymateb i ymgynghoriad ar Fil Aelod.

Mae'n bosibl y bydd Aelodau'r Cynulliad, staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad yn defnyddio'r copïau hyn yn ystod y gwaith o ddatblygu'r Bil, hyrwyddo'r effaith y bwriedir iddo ei chael, a chraffu arno. Caiff pob copi ei storio'n ddiogel, naill ai ar ein rhwydwaith TGCh mewnol neu mewn swyddfeydd diogel.

Nid oes yn rhaid i Aelod sy'n datblygu Bil dderbyn eich tystiolaeth ysgrifenedig, ac nid oes yn rhaid i Aelod gyhoeddi eich tystiolaeth yn llawn nac unrhyw ran ohoni, hyd yn oed os yw wedi cael ei derbyn. Gall hyn ddigwydd pan fydd cyflwyniad yn hir iawn neu'n cynnwys deunydd yr ydym o'r farn ei fod yn amhriodol i'w gyhoeddi.

Cyhoeddi, cadw a ​​defnyddio eich ymateb i'r ymgynghoriad

Caiff y Cynulliad gyhoeddi eich ymateb i'r ymgynghoriad, yn llawn, ar ein gwefan, a fydd yn golygu bod y wybodaeth ar gael drwy chwilotwyr y rhyngrwyd. Bydd y fersiwn electronig, sydd wedi'i chyhoeddi, o'ch ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel a gan yr Archifau Cenedlaethol er mwyn cadw cofnod hanesyddol o'r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth.

Gofynnwn ichi nodi'n glir yn eich ymateb i'r ymgynghoriad a ydych yn ei gyflwyno mewn rhinwedd swyddogol neu bersonol. Ar gyfer tystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno:

  • mewn rhinwedd swyddogol (er enghraifft, fel rhan o'ch swydd neu rôl arall), bydd y fersiwn o'ch tystiolaeth a gyhoeddir yn cynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, ac efallai y caiff y manylion hynny hefyd eu defnyddio mewn cyhoeddiadau eraill neu ddeunydd cyhoeddusrwydd, oni bai eich bod yn datgan yn eich tystiolaeth eich bod yn dymuno dileu'r manylion hynny.
  • mewn rhinwedd bersonol, bydd y fersiwn o'ch tystiolaeth a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, ond nid eich manylion cyswllt preifat.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r fersiwn o'ch ymateb a gyhoeddir, neu ran ohoni, mewn cyhoeddiadau neu ddeunydd cyhoeddusrwydd ynghylch y Bil Aelod. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dyfynnu o'ch ymateb:

  • yn y Memorandwm Esboniadol i'r Bil Aelod, pan gaiff ei gyflwyno;
  • mewn datganiadau i'r cyfryngau sydd â'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o effaith y Bil;
  • mewn adroddiadau a phapurau eraill sydd ar gael yn gyhoeddus ac sy'n gysylltiedig â gwaith craffu ar y Bil gan bwyllgor; caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan a'u dosbarthu ar ffurf copi caled i bartïon â diddordeb (gyda'r fersiwn electronig yn cael ei chadw ar ein rhwydwaith a gan yr Archifau Cenedlaethol);
  • mewn papurau briffio pwyllgor nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn ond sy'n cael eu cadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel;
  • ar ein gwefan (sy'n cael ei harchifo am gyfnod amhenodol gan yr Archifau Cenedlaethol); ac
  • ar sianela​u ar-lein eraill (fel Twitter a YouTube) lle caiff gwybodaeth ei chadw a'i phrosesu yn unol â pholisïau preifatrwydd y proseswyr unigol hynny (Mae polisïau preifatrwydd y proseswyr hynny i'w gweld ar eu gwefannau). 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth arall yn eich tystiolaeth yr ydych o'r farn nad yw'n addas ei datgelu i'r cyhoedd, gofynnwn ichi nodi yn eich tystiolaeth pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a'r rhesymau pam. Byddwn yn ystyried hynny wrth gyhoeddi ymatebion i'r ymgynghoriad ac wrth ymdrin ag unrhyw geisiadau am wybodaeth (gweler isod). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y math o wybodaeth sy'n addas i'w darparu fel tystiolaeth ysgrifenedig, cysylltwch â'r swyddog perthnasol a enwir yn y ddogfen ymghynghori.

Cysylltu â chi

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt (ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel) drwy gydol y Pumed Cynulliad (hynny yw, tan fis Ebrill 2021) fel y gallwn:

  • roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwaith o ddatblygu'r Bil;
  • gofyn unrhyw gwestiynau dilynol angenrheidiol ar eich ymateb i'r ymgynghoriad;
  • trafod (os yn briodol) a ydych yn dymuno cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth ar lafar wrth i bwyllgor graffu ar y Bil;
  • anfon copi o adroddiad y pwyllgor atoch ar ddiwedd yr ymchwiliad; a
  • chysylltu â chi ynghylch unrhyw waith dilynol gan y pwyllgor o ran craffu ar y Bil.

    Ni fyddwn yn cysylltu â chi i drafod busnes arall y Cynulliad y tu hwnt i'r gwaith o ddatblygu'r Bil Aelod a chraffu arno. I gael gwybodaeth am ddilyn busnes arall y Cynulliad a chymryd rhan ynddo, ewch i'n gwefan: www.cynulliad.cymru/busnes

Ceisiadau i'r Cynulliad am wybodaeth

Os gwneir cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth hawl i wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid datgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych neu ran ohoni. Fe allai hynny gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi. Ni fyddwn ond yn gwneud hynny os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Rheolydd data

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw rheolydd data y wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Eich ha​wliau

Os hoffech chi: arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth berthnasol (fel yr hawl i gael gweld gwybodaeth), gofyn cwestiwn neu wneud cwyn am y ffordd y mae'ch gwybodaeth wedi'i defnyddio, dylech gysylltu â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Cynulliad. Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei gwefan. ​