Hysbysiad Preifatrwydd – Recriwtio Staff y Comisiwn

Cyhoeddwyd 25/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/08/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn esbonio sut y mae Comisiwn y Senedd (“y Comisiwn”) yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi'n gwneud cais am swydd gyda ni. Mae hefyd yn nodi am ba mor hir y cedwir y wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ei rhannu â sefydliadau eraill.

Pwy ydym ni 

Comisiwn y Senedd yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth yr ydych yn ei darparu, a bydd yn sicrhau y caiff ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y ffordd yr ydym yn prosesu data personol, neu sut i arfer eich hawliau, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data yn:

diogelu.data@senedd.cymru

Tŷ Hywel, Stryd Pierhead, Bae Caerdydd CF99 1SN

0300 200 6494

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu?

Caiff y wybodaeth y gofynnwn amdani ei defnyddio i’n galluogi i ystyried a ydych yn addas ar gyfer swydd wag sydd wedi'i hysbysebu. Er nad oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani, gallai peidio â darparu digon o wybodaeth effeithio ar ein gallu i brosesu'ch cais, asesu eich addasrwydd, a chynnig swydd i chi.

Byddwn yn gofyn am adborth gennych ar wahanol gamau drwy gydol y broses recriwtio. Bydd hyn yn cael ei anfon atoch ar ffurf linc i dudalen Forms yn y negeseuon e-bost canlyniad wedi’u hawtomeiddio. Adborth dewisol yw hwn ac nid oes rhaid i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Ni fydd hwn yn cofnodi eich cyfeiriad e-bost na'ch manylion cyswllt, fodd bynnag, os byddwch yn llenwi ein ffurflen adborth efallai y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn anfwriadol, ond ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio na'i phrosesu.

Os ydych yn ymgeisydd llwyddiannus, anfonir y linc adborth hwn i'ch cyfeiriad e-bost gwaith newydd.

Gwybodaeth a brosesir wrth wneud cais

Mae ein System Olrhain Ceisiadau yn cael ei rhedeg gan WebRecruit, sef darparwr trydydd parti. I gyflwyno cais drwy'r System Olrhain Ceisiadau, gofynnir i chi greu cyfrif drwy nodi eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. Gallwch hefyd ddewis cael Hysbysiadau ar gyfer mathau penodol o swyddi. Bydd y wybodaeth uchod yn cael ei storio gan WebRecruit a nhw fydd y Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth hon. Mae manylion am yr hyn y bydd WebRecruit yn ei wneud â'ch gwybodaeth gofrestru ar gael yn ei Hysbysiad Preifatrwydd. Nid WebRecruit fydd y Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth a gyflwynir gennych fel rhan o'ch cais ar gyfer rôl a hysbysebir yn y Comisiwn.

Bydd WebRecruit yn cadw’r wybodaeth a gyflwynir gennych ar weinydd a ddarperir gan drydydd parti arall, sef OVH (http://www.ovh.co.uk). Mae'r gweinyddion a ddefnyddir gan OVH wedi'u lleoli yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Mae WebRecruit hefyd yn defnyddio nifer o broseswyr trydydd parti eraill wrth ddarparu'r system hon. Mae manylion am y rhesymau y mae Web Recruit yn rhannu data personol â'r trydydd partïon hynny wedi'u nodi yn ei hysbysiad preifatrwydd. Mae un o’r trydydd partïon hynny’n trosglwyddo data y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae’r trosglwyddiad hwnnw yn dod o dan gymalau cytundebol lle byddant yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd. Mae'r holl ddata personol sy'n weddill yn cael eu prosesu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Bydd yr holl wybodaeth berthnasol i gynnal sifft yn cael ei chadw ar systemau gwybodaeth y Senedd ac yn cael ei rhannu ag aelodau'r Panel, a bydd modd iddynt gael mynediad i’r wybodaeth er mwyn adolygu ceisiadau. Ar ôl cwblhau'r sifft, bydd y ceisiadau'n cael eu dileu o'r ffolderau hyn ac yn cael eu cadw ar y System Olrhain Ceisiadau yn unig. Dim ond aelodau o dimau gweinyddol adran Adnoddau Dynol y Comisiwn a WebRecruit fydd yn cael mynediad at y wybodaeth sydd wedi'i storio ar y System Olrhain Ceisiadau. 

Mae’r data personol a brosesir yn cynnwys eich teitl, enw, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, addysg, cymwysterau, hanes cyflogaeth a sgiliau, geirdaon cyflogaeth ac atebion i gwestiynau y nodwyd gennym eu bod yn berthnasol i'r rôl, ac unrhyw wybodaeth bersonol arall y gallech fod wedi’i rhoi ar eich ffurflen gais. Er mwyn gwella effeithiolrwydd ein proses recriwtio, rydym hefyd yn cofnodi gwybodaeth am sut y gwnaethoch gyrraedd y dudalen swyddi gwag, er enghraifft drwy blatfform trydydd parti (Facebook, Twitter, a gwefannau recriwtio eraill ac ati) a'r math o ddyfais a ddefnyddiwyd.

Mae cyfraith diogelu data yn cydnabod rhai “categorïau arbennig” o wybodaeth. Diffinnir y rhain fel gwybodaeth sy'n datgelu cefndir unigolyn o ran hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth enetig, gwybodaeth fiometreg ar gyfer adnabod person yn unigryw, gwybodaeth am iechyd, a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.

Mae'r categorïau arbennig hyn yn cael eu hystyried yn arbennig o sensitif ac mae lefel arbennig o warchodaeth yn gymwys iddynt. Mae hyn hefyd yn wir am wybodaeth sy'n ymwneud â throseddau neu euogfarnau.

Gofynnir hefyd am gategorïau arbennig o ddata yn ystod y cam gwneud cais, ar gyfer monitro cyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal, a allai gynnwys eich rhywedd, ethnigrwydd, cenedligrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd/cred.

Rydym yn defnyddio datganiadau ynghylch anabledd i'n galluogi i asesu a gwneud addasiadau rhesymol i'r broses recriwtio os bydd yr ymgeisydd yn gofyn amdanynt.

Pam rydym yn casglu'r wybodaeth hon

Caiff data personol eu casglu a’u defnyddio i hwyluso proses recriwtio staff y Comisiwn ac i gyflawni ein dyletswyddau i gyhoeddi data monitro amrywiaeth fel rhan o ddyletswyddau sector cyhoeddus Deddf Cydraddoldeb 2010 (cyhoeddir y data hyn yn ddienw).

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r cwestiynau ynghylch amrywiaeth ar gyfer monitro cyfle cyfartal. Fodd bynnag, mae cyfle i ymgeiswyr nodi 'Mae'n well gennyf beidio â dweud' i bob cwestiwn. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon i'n cynorthwyo â'n cyfrifoldebau monitro.

Os byddwch yn nodi manylion o ran amrywiaeth, bydd y wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cael ei chadw ar wahân ac ni fydd y panel recriwtio yn ei gweld. Ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn fel rhan o'r broses hon.

Os llenwch y ffurflen adborth a anfonir yn yr e-byst canlyniad awtomataidd, caiff y wybodaeth a roddwch ei defnyddio i'n cynorthwyo gyda gwelliannau parhaus a sut y byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i'n prosesau yn y dyfodol. Ar y ffurflen adborth, byddwn yn gofyn cwestiynau Cyfle Cyfartal/Cydraddoldeb ac Amrywiaeth hefyd, yn seiliedig ar y meini prawf a ganlyn: rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, hunaniaeth genedlaethol, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd, a chrefydd.

Mae Comisiwn y Senedd eisiau parhau i fod yn sefydliad enghreifftiol o ran gwerthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant ac ymgorffori cydraddoldeb, fel cyflogwr a sefydliad seneddol. Rydym yn cynnal adolygiadau o’n prosesau a’n harferion recriwtio’n barhaus i sicrhau eu bod yn deg ac yn gynhwysol. Er mwyn parhau i gyflawni hyn, rydym yn gofyn am adborth ymgeiswyr i lywio ein dull o recriwtio. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw’n gyfan gwbl gyfrinachol ac ar wahân i’ch ffurflen gais, a chaiff ei defnyddio at ddibenion ystadegol yn unig. Dylech nodi, mae darparu gwybodaeth yn yr adran hon yn gwbl wirfoddol a chaiff ei chadw ar ein cronfa ddata fonitro am gyfnod o 24 mis ar ôl y penderfyniad penodi. Deallwn na fydd pawb am roi’r wybodaeth hon ac, er mwyn y bobl hynny, gallwch naill ai deipio neu ddewis ‘Gwell gennyf beidio â dweud’.

Beth y byddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych

Bydd y Comisiwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • Gwerthuso eich cais ac asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl dan sylw;
  • Gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid eich dewis ar gyfer cyfweliad a phenodiad;
  • Cynnal proses sgrinio perthnasol cyn dechrau’r gyflogaeth (e.e. cynnal gwiriadau o gofnodion troseddol/Fetio Diogelwch Cenedlaethol; gwirio'ch cyfeiriad, cymwysterau academaidd a'ch profiad gwaith);
  • Adolygu ac archwilio'r broses recriwtio a'i chanlyniadau;
  • Cynnal gweithgareddau monitro amrywiaeth;
  • Byddwn yn defnyddio'ch data i ofyn am adborth.

Mae manylion am yr hyn y bydd WebRecruit yn ei wneud â'ch gwybodaeth gofrestru ar gael yn ei Hysbysiad Preifatrwydd.

Gwybodaeth a brosesir yn ystod y cam cyfweld

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnwn i chi ddarparu'r eitemau a ganlyn:

  • Trwydded yrru ddilys / Pasbort dilys;
  • Ffurflen Datganiad Cofnod Troseddol wedi'i chwblhau:
  • Mae'r ffurflen Datganiad Cofnod Troseddol yn cynnwys ei Hysbysiad Preifatrwydd ei hun o ran sut mae'r swyddfa Fetio yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir;
  • Gall hyn gynnwys cael gwybodaeth am euogfarnau troseddol, rhybuddion neu droseddau eraill a gyflawnwyd, p'un a ydynt yn rhai o’r gorffennol, yn rhai cyfredol neu’n rhai sydd yn yr arfaeth;
  • Mae'r ffurflen Datganiad Cofnod Troseddol yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gedwir yn unol â'r amserlen ar gyfer cadw gwybodaeth a amlinellir yn y Polisi Fetio;
  • Pasbort neu Fisa i gadarnhau cymhwysedd i weithio yn y DU.

CCTV

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, nodwch fod gennym deledu cylch cyfyng ar y safle. Mae delweddau'n cael eu monitro a gellir eu recordio at ddibenion atal troseddau a diogelwch y cyhoedd. Mae'r cynllun hwn yn cael ei reoli gan y Comisiwn. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Polisi Preifatrwydd y Senedd neu ffoniwch: 0300 200 6555

Gwybodaeth a brosesir ar y cam cyn-gyflogaeth

Os byddwch yn llwyddiannus mewn cyfweliad, byddwn hefyd yn gofyn ichi ddarparu:-

Drwy'r System Olrhain Ceisiadau:

  • Manylion cyswllt canolwyr;
  • Manylion unrhyw aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil;
  • Ffurflen gais parcio car (os bydd angen).

Gofynnir i chi hefyd ddychwelyd eich dogfen Cynnig Cyflogaeth a'ch Contract Cyflogaeth drwy'r system, neu drwy'r post os byddai’n well gennych wneud hynny.

Drwy e-bost:

  • Holiadur iechyd galwedigaethol wedi’i gwblhau er mwyn cadarnhau a ydych yn ffit i weithio;
  • Manylion banc;
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng.
  • Byddwn yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost gwaith newydd i ofyn am adborth ar ein prosesau.

Ffynonellau Data

Bydd y wybodaeth yr ydym ni’n ei chasglu yn cael ei darparu'n uniongyrchol gennych chi, neu weithiau gan asiantaeth recriwtio.

Os byddwch yn llwyddiannus mewn cyfweliad, byddwn yn casglu gwybodaeth gan drydydd partïon, gan gynnwys eich canolwyr, eich darparwr addysg, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhestr bostio

Ar ein gwefan Swyddi, bydd opsiwn i gael eich ychwanegu at ein rhestr Hysbysiadau Swyddi. Os byddwch yn cyflwyno eich gwybodaeth, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd rôl addas yn codi. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei storio gan WebRecruit, gellir gweld eu polisi preifatrwydd yma: Preifatrwydd | Webrecruit

Rhannu gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwn yn defnyddio asiantaethau recriwtio yn dibynnu ar y rôl. Byddant yn cadw’r wybodaeth am 12 mis ar ôl y penodiad. Bydd yr asiantaeth benodedig yn darparu manylion am eu hysbysiad preifatrwydd priodol. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd eich data yn cael eu prosesu fel uchod. 

Mae gennym Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol Annibynnol a all rannu gwybodaeth bersonol â ni o ran asesu eich addasrwydd i weithio a/neu unrhyw argymhellion ar gyfer addasiadau rhesymol. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn yn http://www.insynchealth.co.uk.

Bydd rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei hanfon at drydydd partïon pan fo angen cynnal gwaith sgrinio cyn cyflogaeth e.e. Fetio Diogelwch Cenedlaethol y DU a/neu gael tystlythyrau gan gyflogwyr blaenorol, tystlythyrau personol ac addysg, gwiriadau ynghylch cymwysterau/cefndir proffesiynol.

Heblaw am yr hyn a nodir uchod, dim ond personél awdurdodedig y Comisiwn (h.y. rheolwyr sy’n chwilio am staff newydd a’r adran adnoddau dynol) sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli a gweinyddu'r broses recriwtio ac y mae angen busnes iddynt i gael mynediad i'ch gwybodaeth fydd yn gallu gweld a phrosesu'ch gwybodaeth bersonol.

Efallai y bydd y Comisiwn hefyd yn datgelu gwybodaeth am ymgeiswyr i drydydd partïon eraill, er enghraifft, er mwyn sefydlu neu amddiffyn hawliau cyfreithiol y Comisiwn, neu mewn argyfwng os bydd iechyd neu ddiogelwch personol ymgeisydd mewn perygl.

Gellir defnyddio unrhyw adborth rydych yn ei ddarparu i roi gwybodaeth i’r tîm Adnoddau Dynol ehangach a'n Bwrdd Gweithredol am y newidiadau sydd eu hangen ar ein prosesau.

Ble bydd y wybodaeth yn cael ei chadw?

Caiff rhywfaint o wybodaeth ei chadw ar rwydwaith TGCh y Comisiwn, sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i'r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth ddomestig. Mae manylion am sut y bydd Microsoft yn defnyddio'ch gwybodaeth ar gael yn ei Ddatganiad Preifatrwydd.

Am faint o amser y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Bydd manylion personol ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu cadw am 12 mis, yn unol ag amserlen cadw gwybodaeth y Comisiwn. Bydd dogfennau'n cael eu dinistrio yn unol â'n hamserlen ar gyfer dinistrio. Byddwn yn anfon neges atoch bythefnos cyn i'ch gwybodaeth gael ei dileu.

Bydd manylion personol ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cadw drwy gydol eu cyflogaeth ac am 100 mlynedd ar ôl i’w cyflogaeth ddod i ben.

Mae manylion am ba mor hir y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw a’i storio gan WebRecruit, sef rheolydd data y wybodaeth gofrestru, ar gael yn ei Bolisi Preifatrwydd.

Os byddwch yn cyflwyno adborth, bydd eich gwybodaeth yn cael ei storio’n ddiogel ar ein systemau TGCh, sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Bydd unrhyw drosglwyddiad data gan Microsoft y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd. Am ragor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio'ch gwybodaeth, darllenwch ei bolisi preifatrwydd yma.

Ein seiliau cyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn nodi seiliau cyfreithiol amrywiol sy’n caniatáu inni gasglu, cadw a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Y rhain yw:

  • Pan fyddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i gyflawni ein swyddogaethau cyhoeddus. Un o brif swyddogaethau y Comisiwn yw darparu'r staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Senedd at ei dibenion a'i gwaith. Enghraifft o hynny yw'r gwaith prosesu a wneir er mwyn asesu pa ymgeisydd yw’r un mwyaf addas ar gyfer swydd benodol;
  • Pan fo angen cynnal y gwaith prosesu er mwyn cymryd camau i ymrwymo i gontract gyda chi. Enghraifft o hynny yw cysylltu â’r canolwyr a ddewiswyd gennych;
  • Pan fo dyletswydd arnom yn ôl y gyfraith i brosesu’ch gwybodaeth bersonol. Enghraifft o hynny yw pan fo angen i ni wneud addasiadau rhesymol i alluogi ymgeisydd i gymryd rhan yn y broses recriwtio;
  • Pan fyddwn yn prosesu'ch gwybodaeth er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol. Enghraifft o hynny fyddai pe byddem yn rhannu gwybodaeth am eich iechyd pe bai argyfwng meddygol yn digwydd tra byddwch ar y safle;
  • Weithiau byddwn yn casglu a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar sail eich cytundeb. Caiff hynny ei alw’n ‘gydsyniad’. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar bob adeg pan fydd hyn yn digwydd. Enghraifft o hynny yw pan fyddwn yn cadw manylion ymgeiswyr aflwyddiannus am gyfnod penodol er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am swyddi addas yn y dyfodol.

Yn ogystal, byddwn yn prosesu data personol categori arbennig fel rhan o'r broses recriwtio. Dim ond o dan yr amgylchiadau a ganlyn y byddwn yn casglu a defnyddio'r wybodaeth hon:

  • os ydym o’r farn ei bod yn angenrheidiol ac er budd sylweddol y cyhoedd i wneud hynny, er enghraifft ar gyfer monitro cyfle cyfartal;
  • os ydym o’r farn ei bod yn angenrheidiol i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol neu arfer hawliau mewn cysylltiad â chyflogaeth;
  • os oes angen eich amddiffyn chi neu berson arall rhag niwed; neu
  • o dan amgylchiadau cyfyngedig, pan fyddwch wedi rhoi eich caniatâd penodol inni wneud hynny. Er enghraifft, pan fyddwn yn casglu categorïau arbennig o ddata pan fyddwch yn llenwi'ch ffurflen adborth, bydd hyn yn wirfoddol.

Byddwn hefyd yn prosesu data sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol neu droseddau fel rhan o'r broses recriwtio. Dim ond os oes gennym sail gyfreithiol dros wneud hynny y byddwn yn prosesu'r data personol hyn. Mae gwybodaeth a gesglir fel rhan o'r ffurflen Datganiad Cofnod Troseddol hefyd yn ddarostyngedig i'w Hysbysiad Preifatrwydd ei hun.

Eich hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir ai peidio pan fyddwch chi'n gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau yn 'gais gwrthrych am wybodaeth'.

Hefyd, mae gennych hawl i wneud cais gennym ni:

  • bod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (nodwch fod gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; a
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei darparu i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gofyn cwestiwn neu wneud cwyn ynghylch sut y defnyddir eich gwybodaeth; cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio un o'r dulliau a nodir yn yr adran “Pwy ydym ni” uchod.

Os byddwch yn anfodlon â’r modd y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol neu os byddwch am gwyno am y modd y gwnaethom ymdrin â’ch cais, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data a byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblemau sydd gennych.

Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio eich gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei wefan.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Mae'r Senedd yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth. Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych yn llawn neu’n rhannol. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a gafodd ei dileu o'r blaen gennym at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Newidiadau i'n datganiad preifatrwydd

Byddwn yn adolygu'r datganiad preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y wefan hon. Gellir cael copïau papur o'r datganiad preifatrwydd hefyd gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt isod. Cafodd y datganiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2021.