Adnoddau Etholiad

Helpwch i ledaenu’r gair am Etholiad Senedd eleni, gydag ystod o ddeunyddiau i’w defnyddio ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu eisiau cysylltu â ni, e-bostia cysylltu@senedd.cymru

Cyfryngau cymdeithasol

Lledaenu'r Gair Ar Gyfryngau Cymdeithasol!

Dewis o'n detholiad o ddelweddau i'w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

A phaid ag anghofio defnyddio ein sticeri GIF etholiad ar dy straeon Instagram - chwilia am ‘Pleidlais 16’ neu ‘Senedd’ i’w cynnwys yn dy negeseuon.

Lawrlwytho nawr

Ar gael yn Arabeg, Bengali, Tsieineeg ac Wrdw yma.

Fideo

Dod i adnabod eich Senedd

Rhowch rhain ar eich gwefan neu rhannwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o fideos yn egluro sut mae gwahanol elfennau o’r Senedd yn gweithio, gan gynnwys pleidleisio, Aelodau, a hanes y Senedd.

Cyflwyniadau

Cyflwyniadau

Gall y cyflwyniad hwn helpu eich cymuned i ddod i wybod am Etholiad y Senedd, sut i gofrestru, eich cymhwysedd i bleidleisio a’r broses etholiadol.

Mae hefyd yn edrych ar rôl y Senedd, sut y bydd y Senedd nesaf yn cael ei ffurfio, ei phwerau a rôl Aelodau o’r Senedd yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae’r cyflwyniad hefyd yn cynnwys pwyntiau trafod a gweithgareddau a fydd yn gymorth i gynnal eich sesiwn eich hun.

Lawrlwytho nawr