Rhai cwestiynau cyffredin am Etholiad y Senedd 2021

Mae’r cwestiynau yn amrywio o sut mae’r system bleidleisio ar gyfer y Senedd yn gweithio, i am ba gyfnod y caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol. Beth am gael golwg ar y cwestiynau cyffredin a ofynnir.

Gwybodaeth am Etholiad y Senedd

Cwestiynau Cyffredinol

Beth yw'r Senedd?

Y Senedd yw senedd ddatganoledig Cymru.

Mae'r Senedd yn gwbl ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae'r Senedd yn gwirio gwaith Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod cynlluniau ar gyfer gwario arian neu redeg gwasanaethau yn cael eu gwneud yn y ffordd orau bosibl i Gymru.

Pa mor aml mae etholiadau i'r Senedd yn cael eu cynnal?

Mae etholiadau i'r Senedd fel arfer yn digwydd unwaith bob pum mlynedd. Bydd etholiad y Senedd yn 2021 yn cael ei gynnal ar 6 Mai.

Faint o Aelodau sydd yn y Senedd?

Mae 60 o Aelodau o’r Senedd.

Am faint o amser y caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol?

Caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol tan yr etholiad nesaf.

Fel rheol, cynhelir etholiad y Senedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, bob pum mlynedd.

Ai’r un rhai yw etholaethau’r Senedd ac etholaethau Senedd y DU?

Mae 40 sedd etholaethol ar gyfer Etholiad y Senedd. Maent yr un fath â'r rhai a ddefnyddir ar gyfer etholiadau San Steffan.

Mae gan y Senedd hefyd 20 Aelod Rhanbarthol, sy'n cynrychioli 5 rhanbarth etholiadol, gyda 4 Aelod etholedig ym mhob rhanbarth.

Efallai y bydd ffiniau senedd San Steffan yn newid cyn etholiad Cyffredinol nesaf y DU ond ni fydd hynny’n arwain at ddim newid i ffiniau etholaethau Senedd Cymru.

A oes modd gweld map o etholaethau a rhanbarthau’r Senedd?

Oes. Mae hwn ar gael ar y wefan y Senedd. Gan ddefnyddio'ch cod post, gallwch weld ym mha ranbarth ac etholaeth rydych chi ynddynt.

Ble alla i ddod o hyd i ganllawiau ar sut mae etholiadau Senedd yn cael eu cynnal?

Mae canllawiau ar gyfer y cyhoedd, ymgeiswyr a gweinyddwyr etholiadol yn cael eu darparu gan y Comisiwn Etholiadol, ac maent i’w gweld ar y wefan.

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Mae'n gosod y safonau ar gyfer cynnal etholiadau ac yn adrodd ar ba mor dda y caiff hyn ei wneud. Ei brif nod yw cynyddu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd. Mae'n cael ei ariannu gan y Senedd ac mae’n atebol i'r Senedd o ran etholiadau awdurdodau lleol ac etholiadau’r Senedd.

Pwy sy'n gyfrifol am ariannu etholiadau’r Senedd?

Llywodraeth Cymru sy'n ariannu etholiadau'r Senedd. Swyddogion Canlyniadau (Prif Weithredwr yr awdurdod lleol) sy’n gyfrifol am drefnu'r etholiadau yn eu hardal.

Ble alla i gael canlyniadau etholiadau'r gorffennol?

Gellir gweld canlyniadau etholiadau blaenorol y Senedd ar wefan y Senedd.
 

Ble alla i gael canlyniadau'r Etholiad?

Adroddir am ganlyniadau etholiad y Senedd yn fyw mewn darllediadau arbennig gan amryw o gyfryngau gan gynnwys y BBC, ITV a S4C - ar deledu, radio ac ar-lein.

Pa mor fuan ar ôl yr Etholiad y bydd llywodraeth yn cael ei ffurfio?

Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad y Senedd, nid penderfynu pwy fydd yn eich cynrychioli chi a'ch cymuned yn unig y byddwch, mae'ch pleidlais yn mynd tuag at benderfynu pwy fydd yn gallu ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.

Bydd Plaid sy'n ennill 30 sedd neu ragor yn ffurfio Llywodraeth Cymru.

Beth sy'n digwydd os nad yw unrhyw blaid yn cael mwyafrif cyffredinol?

Os na fydd yr un blaid yn ennill 30 sedd yn y Senedd, yna gall dwy blaid neu ragor benderfynu gweithio gyda'i gilydd i ffurfio llywodraeth glymblaid.

Digwyddodd hyn yn dilyn etholiad Cynulliad 2007, ac arweiniodd at ffurfio llywodraeth glymblaid Llafur / Plaid Cymru yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd y blaid fwyaf yn ceisio llywodraethu heb fwyafrif cyffredinol, fel y gwnaeth y blaid Lafur ar ôl Etholiad 2011.

Gwybodaeth am bleidleisio

Pleidleisio

Pam ddylwn i bleidleisio?

Mae eich pleidlais yn beth pwerus. Mae'n rhoi hawl i chi ddweud eich dweud ar sut mae'r wlad yn cael ei rhedeg. P'un a ydych chi'n pleidleisio mewn etholiad, neu mewn refferendwm, mae'ch pleidlais yn bwysig. Mae eich pleidlais yn un ffordd i chi leisio eich barn.

Pam mae etholiadau'r Senedd yn bwysig?

Bob blwyddyn, caiff tua £17 biliwn ei wario yng Nghymru ar bethau sy'n effeithio ar eich bywyd, fel iechyd ac addysg. Gwelwyd yn ddiweddar sut y mae penderfyniadau yng Nghymru sy'n ymwneud â’r pandemig Covid-19 wedi bod yn wahanol i rannau eraill o'r DU.

Y Senedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod y penderfyniadau hynny’n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, drwy ddeddfu ar gyfer Cymru, drwy gytuno ar drethi yng Nghymru a thrwy ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio?

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio mewn etholiad yng Nghymru. Mae’n gyflym ac yn hawdd cofrestru i bleidleisio. Mae gennym wybodaeth ar wefan y Senedd ynglŷn â sut rydych chi'n cofrestru i bleidleisio, ac erbyn pryd y mae angen i chi gofrestru.

A fyddaf yn gallu pleidleisio dros fy Aelodau o’r Senedd yn yr etholiad?

Byddwch, os ydych yn gymwys ac wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru.

Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gofrestru a ffyrdd i bleidleisio ar ein gwefan.

Sut mae'r system bleidleisio yn gweithio?

Mae pleidleisio yn Etholiad y Senedd yn gyfle ichi fynegi eich barn ynghylch pwy sy'n eich cynrychioli chi a'ch cymuned yn y Senedd. Gall eich pleidlais ddylanwadu ar bwy fydd â gofal am y pwerau sydd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru ar gyfer siapio bywyd yng Nghymru.

Caiff pawb yng Nghymru ddwy bleidlais yn Etholiad y Senedd:

  • Pleidlais etholaethol
  • Pleidlais ranbarthol


Aelod etholaethol

Mae eich pleidlais gyntaf am y person rydych chi am iddo eich cynrychioli chi a’ch ardal leol, a elwir yn etholaeth.

Mae 40 etholaeth yng Nghymru, ac mae pob un yn anfon un person i'r Senedd.

Dewisir Aelodau etholaethol gan ddefnyddio'r system y cyntaf i'r felin. Ystyr hyn yw, mae'r person sy'n cael y mwyafrif o bleidleisiau yn cael ei ethol, ac ef fydd yn eich cynrychioli chi a'ch etholaeth yn y Senedd.

Gallwch weld ym mha etholaeth rydych chi ynddi, a phwy sy'n eich cynrychioli chi gan ddefnyddio'r opsiwn chwilio cod post ar ein gwefan.


Aelod rhanbarthol

Eich ail bleidlais ar gyfer dewis y bobl rydych chi am iddynt gynrychioli eich rhanbarth yng Nghymru.

Mae pum rhanbarth yng Nghymru, ac mae pob un yn anfon pedwar o bobl i'r Senedd.

Dewisir Aelodau rhanbarthol gan ddefnyddio'r System Aelodau Ychwanegol. Mae'r system Aelodau Ychwanegol yn helpu cyfansoddiad terfynol y Senedd, er mwyn iddo adlewyrchu'r gefnogaeth i bob plaid ledled y wlad yn well.

Dyma sut mae'r system ranbarthol yn gweithio:

  • mae gan bob plaid neu grŵp restr o bobl sy'n barod i gynrychioli pob rhanbarth yng Nghymru;
  • rydych chi'n pleidleisio dros y blaid rydych am iddi gynrychioli eich rhanbarth;
  • bydd cyfanswm pleidleisiau rhanbarthol pob plaid yn cael ei rannu â 1 + nifer yr Aelodau o’r Senedd sydd eisoes wedi ennill yn y rhanbarth hwnnw drwy'r bleidlais etholaethol.
  • mae'r blaid sydd â'r cyfanswm uchaf ar ôl y cyfrifiad hwn yn ennill y sedd nesaf a chaiff y person ar frig rhestr y blaid ei ethol;
  • caiff y patrwm hwn ei ailadrodd nes bod penderfyniad wedi'i wneud ynghylch pob un o'r pedair sedd ranbarthol.


Dwy bleidlais, Pump Aelod

Mae'r system bleidleisio hon yn golygu bod pump Aelod yn eich cynrychioli yn y Senedd. Un Aelod sy’n cynrychioli eich etholaeth a phedwar Aelod sy’n cynrychioli’r rhanbarth o Gymru rydych chi'n byw ynddo.

Yn gyffredinol, anfonir 60 o bobl i'r Senedd o bob rhan o'r wlad i gynrychioli Cymru a'i phobl.

Mae gan bob Aelod etholaethol ac Aelod rhanbarthol yr un statws yn y Senedd. Mae hyn yn golygu bod buddiannau holl ranbarthau ac etholaethau Cymru yn cael yr un gynrychioliaeth.

Pwy sydd â hawl i bleidleisio?

I bleidleisio yn Etholiad y Senedd mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio, fod yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad (y diwrnod pleidleisio) a:

  • bod yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad, yn ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, neu’n ddinesydd tramor cymwys.
  • bod yn breswylydd yng Nghymru, a
  • heb fod yn destun unrhyw analluogrwydd cyfreithiol i bleidleisio

Pwy sy’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad?

I fod yn gymwys, rhaid i ddinasyddion y Gymanwlad fod yn preswylio yng Nghymru a naill ai fod â chaniatâd i aros yn y DU neu beidio â bod angen caniatâd o'r fath. Mae dinasyddion y Gymanwlad yn cynnwys pobl o diriogaethau dibynnol ar y Goron Brydeinig a Thiriogaethau Tramor Prydain.

Gellir llwytho rhestr lawn o wledydd cymwys y Gymanwlad, tiriogaethau dibynnol ar y Goron Brydeinig a Thiriogaethau Tramor Prydain oddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Pwy sy'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd?

Mae "dinesydd o'r UE" yn rhywun sydd â dinasyddiaeth unrhyw un o aelod-wladwriaethau'r UE. Gellir llwytho rhestr lawn o aelod-wladwriaethau'r UE oddi ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Pwy sy’n ddinesydd tramor cymwys?

Mae dinesydd tramor cymwys yn ddinesydd unrhyw wlad arall y tu allan i'r rhai a nodwyd fel gwledydd y Gymanwlad, tiriogaethau dibynnol ar y Goron Brydeinig, Tiriogaeth Dramor Prydain neu Aelod-wladwriaeth’r UE, sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r DU neu i aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnynt.

Beth sy'n digwydd yn yr orsaf bleidleisio?

Mae pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn syml iawn ac mae cymorth ar gael bob amser. Bydd y clerc pleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio yn darparu gwybodaeth am sut i lenwi'ch papur pleidleisio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

A oes angen i mi fynd â fy ngherdyn pleidleisio gyda mi?

Na, nid oes angen i chi fynd â'ch cerdyn pleidleisio gyda chi. Gallwch barhau i bleidleisio hyd yn oed os ydych wedi ei anghofio neu wedi’i golli.

A oes darpariaethau arbennig ar gyfer pobl ag anableddau, neu bobl y mae angen cymorth arnynt?

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os oes angen unrhyw help arnoch, gofynnwch i'r staff yn yr orsaf bleidleisio - byddant yn hapus i'ch cynorthwyo i fwrw'ch pleidlais.

Os oes gennych anabledd sy'n golygu na allwch lenwi'r papur pleidleisio eich hunan, gallwch ofyn i'r swyddog llywyddol farcio'r papur pleidleisio ar eich rhan

Os oes gennych nam ar eich golwg, gallwch ofyn am bapur pleidleisio print mawr, neu ddyfais bleidleisio arbennig, i'ch helpu i fwrw'ch pleidlais.

Oes rhaid i mi fynd i orsaf bleidleisio i bleidleisio?

Nac oes. Gallwch hefyd ddewis pleidleisio drwy'r post, neu bleidleisio drwy ddirprwy.


Pleidleisio drwy'r post

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am bleidlais bost i'w defnyddio yn Etholiad y Senedd ac mewn etholiadau lleol yng Nghymru. Nid oes yn rhaid i chi roi rheswm.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais pleidlais bost. Gallwch gael y ffurfeln gais drwy gysylltu â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

Pan gynhelir Etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru, anfonir eich papur pleidleisio atoch, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i'w lenwi.

Dim ond os byddwch chi'n 16 mlwydd oed neu'n hŷn ar adeg Etholiad y Senedd neu etholiad lleol y gellir ei hanfon atoch.

I wneud cais am bleidlais bost, yn gyntaf rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio.



Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau ar 6 Mai 2021 yw 17.00 ddydd Mawrth 20 Ebrill.

Rhaid i chi hefyd fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio erbyn hanner nos ddydd Llun 19 Ebrill.



Pleidleisio drwy ddirprwy

Os ydych chi'n 16 mlwydd oed neu'n hŷn, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy i'w defnyddio yn Etholiad y Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru. Bydd angen i chi roi rheswm pam eich bod chi eisiau pleidleisio drwy ddirprwy.

Ystyr pleidlais drwy ddirprwy yw eich bod chi'n dewis rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os oes gennych fater meddygol neu anabledd sy'n eich atal rhag mynd i orsaf bleidleisio, neu os ydych chi'n bwriadu bod dramor ar ddiwrnod yr etholiad.

I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, yn gyntaf rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae angen i'r person rydych chi'n ei ddewis i bleidleisio ar eich rhan hefyd fod wedi cofrestru i bleidleisio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.



Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiadau ar 6 Mai 2021 yw 17.00 ddydd Mawrth 20 Ebrill.

Rhaid i chi hefyd fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio erbyn hanner nos ddydd Llun 19 Ebrill.


Gwybodaeth am ymgeiswyr

Ymgeiswyr

Pwy all sefyll fel ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd?

Gall unrhyw un sefyll fel ymgeisydd, cyhyd â'u bod yn ateb y gofynion a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru a’r rheoliadau etholiadau.

Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd etholaethol neu ymgeisydd rhanbarthol yn Etholiad y Senedd rhaid i ymgeiswyr, ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio, fod:

  • o leiaf 18 mlwydd oed, ac yn
  • yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd tramor cymwys, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon neu ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n preswylio yn y Deyrnas Unedig.

Mae yna hefyd ychydig o resymau a allai anghymhwyso ymgeiswyr rhag sefyll mewn etholiad. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn llunio canllawiau i ddarpar ymgeiswyr i egluro'r gofynion hyn a phwy all gael eu anghymhwyso.

Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth am sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd?

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau i ymgeiswyr cyn etholiad y Senedd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad y Senedd ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Faint all ymgeiswyr ei wario ar ymgyrch etholiadol?

Mae rheolau sy'n rheoli gwariant gan bleidiau gwleidyddol ar wahanol fathau o etholiadau. Y Comisiwn Etholiadol sy'n goruchwylio'r agwedd honno ar y broses etholiadol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Ble alla i ddod o hyd i restr o ymgeiswyr?

Dylech gysylltu â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol i gael gwybod pwy sy'n sefyll yn ei ardal chi.

Bydd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol yn arddangos enwau'r holl ymgeiswyr cyn y diwrnod pleidleisio.

Nid oes un ffynhonnell swyddogol o wybodaeth fanwl am ymgeiswyr, felly dylech edrych ar wefannau ymgeiswyr, ar wefannau’r pleidiau, neu gysylltu â'r pleidiau sy'n sefyll yn eich etholaeth a'ch rhanbarth lleol.

Gall ymgeiswyr anfon gwybodaeth amdanynt eu hunain atoch chi, fel rhan o'u gweithgareddau ymgyrchu yn eich ardal chi.

O ble alla i gael copïau o faniffestos o ran yr Etholiad?

Cyhoeddir maniffestos gan y pleidiau gwleidyddol neu gan ymgeiswyr annibynnol i roi gwybod i bobl beth maen nhw am ei wneud os ydyn nhw'n cael eich pleidlais.

Gallai'r rhain fod ar gael ar wefannau'r pleidiau gwleidyddol neu’r ymgeiswyr annibynnol. Gallwch ddod o hyd i lincs i wefannau’r holl bleidiau gwleidyddol cofrestredig ar wefan y Comisiwn Etholiadol.