Pobl y Senedd

Heledd Fychan AS

Heledd Fychan AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru a gaiff y gostyngiad disgwyliedig o 5 y cant mewn termau real yn ei chyllideb gyfalaf dros y cyfnod 2024-25 i 2028-29...

Wedi'i gyflwyno ar 16/07/2024

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu: a) bod cymunedau gwledig Cymru wedi colli £243 miliwn er gwaethaf ymrwymiad o 'ddim ceiniog yn llai' ga...

I'w drafod ar 11/07/2024

  Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: sicrhau gyda Llywodraeth y DU gyllideb o dros £500 miliwn bob blwyddyn i amaethyddiaeth sy’n ystyried chwyddiant, i sicrhau bod modd...

I'w drafod ar 11/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr oblygiadau i Gymru yn sgil asesiad newydd Canghellor y Trysorlys fod cyllid cyhoeddus y DU o dan y gyfres waethaf o amgylchiadau ers yr A...

Tabled on 10/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet egluro sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu cyllid ychwanegol i ddiogelu a chadw trysorau cenedlaethol Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 10/07/2024

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at ddiffyg targedau clir ac adrodd mesuradwy ar ganlyniadau. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu: a) rhagor o wybodaeth am...

I'w drafod ar 10/07/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Heledd Fychan AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Prif ddiddordebau Heledd yw diwylliant, hanes a threftadaeth; sicrhau gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a diddymu tlodi plant; a sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Hanes personol

Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Ers cael ei hethol, mae wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion yn ardal Pontypridd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Heledd Fychan AS