Prif ddiddordebau a chyflawniadau
“Yn y Senedd fy mhrif ddiddordebau yw lles cenedlaethau’r dyfodol yng
ngoleuni’r argyfwng hinsawdd, yr argyfwng iechyd cyhoeddus a waethygir gan ein
dietau afiach, a’r llygredd aer sy’n gwenwyno ein hysgyfaint. Fy uchelgais yw
sicrhau bod y Llywodraeth a'r holl wasanaethau cyhoeddus yn cyflawni systemau
bwyd, tai, trafnidiaeth ac ynni cynaliadwy fel y nodir yn glir yn Neddf Lles
Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)."
Hanes personol
Ganwyd Jenny Rathbone yn Lerpwl ac mae ganddi ddau o blant a dau o wyrion.
Mae hi'n byw yng nghanol etholaeth Canol Caerdydd, ac mae'r rhan fwyaf o’r
etholaeth yn hygyrch ar feic. Cred Jenny y gall pethau da ddigwydd pan fydd
cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd a byddai’n fwy na pharod i weithio gydag
unrhyw un sydd am fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n rhy amlwg ym mhob
cymuned.
Cefndir proffesiynol
Gweithiodd Jenny am 20 mlynedd ym maes materion cyfoes ar y teledu, fel
ymchwilydd a gohebydd i World in Action gan Granada; fel cynhyrchydd Money
Programme y BBC, ac ar Woman's Hour ar Radio 4. Rhwng 2002 a 2007, roedd Jenny
yn Rheolwr Rhaglen ar raglen Sure Start yng ngogledd Llundain a sefydlodd ddwy
ganolfan blant, gan gynnwys gwasanaeth cyn-geni arloesol cenedlaethol a oedd yn
cynnig dosbarthiadau magu plant a chymorth bwydo ar y fron a oedd yn gweithio
ochr yn ochr â chlinigau bydwragedd. Mae gan Jenny brofiad sylweddol o weithio
gyda meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel cadeirydd
Paneli Adolygu Annibynnol ar gyfer y GIG yn Llundain (1996 2003); gwella gofal
cychwynnol fel y cynrychiolydd lleyg ar Bwyllgor Gweithredol Proffesiynol
Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol Islington (2002-2006), gan gadeirio
Partneriaeth Parth Gweithredu Iechyd Camden ac Islington fel prif gynghorydd
iechyd ar Gyngor Islington (1998-2002), ac fel aelod o Bwyllgor Cyswllt
Mamolaeth Camden ac Islington am bron i 20 mlynedd. Roedd Jenny yn arolygydd
lleyg ar gyfer Estyn rhwng 2009 a 2011.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Jenny Rathbone i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2011 ar ôl
trechu’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sedd Canol Caerdydd. Ym mis Mai 2016,
cynyddodd ei mwyafrif dros 2,000 y cant. Dywed Jenny "mae'n hanfodol bod
pob plentyn yn cael dechrau teg mewn bywyd. Dyna pam rwyf wedi bod yn
llywodraethwr ysgol am dros 20 mlynedd. Mae tai gweddus, cynnes yn hawl i bawb.
Rwyf bob amser wedi gweithio gyda chymdeithasau tenantiaid a sefydliadau
cymunedol i fynd i'r afael â'r problemau tai, cyffuriau a throsedd sy'n
effeithio ar ein bywydau i gyd. Rwy'n gefnogwr angerddol i'r GIG a grëwyd gan
Aneurin Bevan fel Gweinidog Iechyd a Thai ar ôl yr ail ryfel byd. Rwy'n aelod o
Unite ac yn gefnogwr brwd i'r dull partneriaeth gymdeithasol o gynnwys undebau
llafur wrth reoli'r gweithle. Rwy'n Noddwr balch i Ymddiriedolaeth Menywod
Hayaat ac yn ymddiriedolwr Good Food Llanedeyrn.”
Mae Jenny yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion
Gwledig a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac o'r blaen mae wedi gwasanaethu fel
aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau. Mae Jenny yn cadeirio tri Grŵp Trawsbleidiol, sef ar Fwyd, ar Sipsiwn a
Theithwyr, a’r Grŵp
Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod.