Pobl y Senedd

Peredur Owen Griffiths AS

Peredur Owen Griffiths AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Sut y mae'r Llywodraeth yn gwella ac yn hyrwyddo diogelwch tân?

Wedi'i gyflwyno ar 11/07/2024

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2025-26, ac yn nodi ymhellach y sy...

I'w drafod ar 10/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau'r Llywodraeth i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn?

Wedi'i gyflwyno ar 10/07/2024

Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu cyflog y sector cyhoeddus yn Nwyrain De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau bysiau yn Nwyrain De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o gynigion ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU i gyfyngu ar y defnydd o lwybrau 20 mya yng Nghymru drwy ddeddfwriaeth San Steffan?

Tabled on 12/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Peredur Owen Griffiths AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Yn fab i weinidog, roedd Peredur eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o Gymru cyn iddo fynd i ysgol uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy, gan gynnwys Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin, Moelfre yn Ynys Môn, Licswm yn Sir y Fflint. Mae gan Peredur Radd Meistr mewn Peirianneg Systemau Rheoli o Brifysgol Sheffield, ac mae bellach yn byw yng Nghaerffili.

Cefndir proffesiynol

Fel myfyriwr yn Sheffield, cymerodd Peredur swydd ym maes bancio. Ar ôl cwblhau ei radd, aeth Peredur ar drywydd cyflym i fod yn Rheolwr Banc i Santander, a llwyddodd i symud yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant. Tra gyda Santander, bu Peredur yn gweithio mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Mynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Ar ôl Santander, daeth Cymdeithas Adeiladu Principality, lle bu Peredur yn gweithio fel Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer cangen morgeisi preswyl y busnes. Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol, ymunodd Peredur â Cymorth Cristnogol fel Cydgysylltydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Etifeddiaeth Cymru gyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd â Bwrdd Cyfarwyddwyr Alltudion ar Waith, elusen sy'n gweithio i leoli ffoaduriaid. Ei gam nesaf oedd ymuno â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, lle bu'n gweithio gyda nifer o grwpiau ffydd ledled Cymru.

Hanes gwleidyddol

Mae Peredur wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Trecenydd yng Nghaerffili ers 2017 ac wedi gwasanaethu am ddwy flynedd fel Cadeirydd Cyngor Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd Etholaeth Caerffili Plaid Cymru. Yn ymgyrchydd am gyfnod hir dros Plaid Cymru, etholwyd Peredur i'r Senedd y tro cyntaf iddo sefyll yn yr etholiad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Peredur Owen Griffiths AS