Roedd Peter Black
yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 1999 ac Ebrill 2016. Hwn oedd
ei fywgraffiad pan fu adael.
Cefndir personol
Ganed Peter ym
1960 yn Bebington, Cilgwri, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn
Cilgwri cyn graddio o Brifysgol Abertawe ym 1981 gyda gradd mewn Saesneg a
Hanes. Mae’n briod ag Angela ac mae’n byw yn Manselton, Abertawe. Mae ei
ddiddordebau personol yn cynnwys ffuglen wyddonol, ffilm, theatr a
barddoniaeth.
Cefndir proffesiynol
Bu Peter yn was
sifil yng Nghofrestrfa Tir Cymru rhwng 1983 a 1999.
Cefndir gwleidyddol
Ers 1999, Peter
Black sydd wedi cynrychioli Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn rhanbarth De
Orllewin Cymru. Mae’n gynghorydd blaenllaw yn Abertawe ac wedi cynrychioli ward
Cwmbwrla ers 1984.
Bu’n Arweinydd yr
Wrthblaid ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe ac mae wedi bod yn Gadeirydd
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Mae diddordebau
gwleidyddol Peter yn cynnwys technolegau digidol, tai, llywodraeth leol a
chyfiawnder cymdeithasol. Peter yw Comisiynydd TGCh a Chynaliadwyedd y
Cynulliad.
Bywgraffiad
fideo
Cofrestr Buddiannau
Cofrestr Buddiannau –
Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
Cofrestr
Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)
Cofrestr
Buddiannau – Y Cynulliad Cyntaf (PDF, 307KB)