Pobl y Senedd

Sam Rowlands AS

Sam Rowlands AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gogledd Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i fanteisio ar brofion pwysedd gwaed mewn fferyllfeydd?

Wedi'i gyflwyno ar 15/07/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwasanaethau iechyd Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 11/07/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella iechyd plant yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 04/07/2024

Pa fesurau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i atal E.coli rhag lledaenu yng Nghymru, o ystyried bod mwy na 13 o bobl wedi cael eu derbyn i ysbyty?

Tabled on 03/07/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 20/06/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn nodi pa mor hanfodol bwysig yw Hosbisau Plant a'r gwaith y maent yn ei wneud yng Nghymru. 2. Yn cydnabod bod 3655 o blant yn byw yng Nghymru sydd â chyflwr sy'...

I'w drafod ar 20/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sam Rowlands AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Sam ym Mangor a chafodd ei fagu ym Mhenygroes, ger Caernarfon, cyn symud i Abergele pan oedd yn naw oed. Aeth i Ysgol Eirias ym Mae Colwyn. Gweithiodd Sam i HSBC rhwng 2009 a 2019 fel rheolwr risg credyd ac yn y swydd hon, cafodd brofiad rhyngwladol. Mae ganddo radd mewn rheoli busnes. Priododd Natasha yn 2008 ac mae ganddynt dair o ferched.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Sam ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Abergele am y tro cyntaf yn 2008. Sam oedd Maer ieuengaf Abergele ac roedd yn y swydd honno rhwng 2015 a 2016. Yn 2017, cafodd ei benodi’n Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros Gyllid ac Adnoddau cyn cael ei ethol yn Arweinydd y Cyngor yn 2019. Ymgeisiodd am sedd etholaeth Dyffryn Clwyd yn etholiadau’r Senedd yn 2016 , cyn cael ei ethol i gynrychioli rhanbarth y Gogledd yn 2021. Ar ôl cael ei ethol i’r Senedd, penodwyd Sam yn llefarydd y Blaid Geidwadol dros lywodraeth leol yng Nghymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Sam Rowlands AS