Gweinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Lesley yn aelod
o Unsain, Cymdeithas Fabian a Sefydliad Bevan.
Hanes personol
Cafodd Lesley
Griffiths ei magu yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae wedi byw a gweithio yn
Wrecsam ers dod yn oedolyn.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei
hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, treuliodd Lesley 20 mlynedd yn gweithio
yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Bu’n gweithio,
hefyd, fel Cynorthwyydd Etholaethol i Ian Lucas, AS Wrecsam.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Lesley
Griffiths i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007. Bu’n aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a
Diwylliant, y Pwyllgor Cynaliadwyedd, y Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor
Deddfwriaeth Rhif 5.
Ym mis Rhagfyr
2009, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a
Sgiliau. Lesley hefyd a sefydlodd y Grŵp Hosbis Trawsbleidiol, a bu’n Gadeirydd arno.
Ar ôl cael ei
hailethol ym mis Mai 2011, cafodd ei phenodi’n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Ym mis Mawrth 2013, cafodd ei phenodi'n Weinidog Llywodraeth Leol
a Busnes y Llywodraeth ac, ym mis Medi 2014, fe'i penodwyd yn Weinidog
Cymunedau a Threchu Tlodi. Ar ôl cael ei hail-ethol ym mis Mai 2016, penodwyd
Lesley yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Mae ei
diddordebau gwleidyddol yn cynnwys iechyd, datblygu economaidd, tai a materion
sy'n ymwneud â phlant.