Pobl y Senedd

Lesley Griffiths AS

Lesley Griffiths AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Wrecsam

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod targedau ambiwlans galwadau coch yn cael eu cyrraedd?

Wedi'i gyflwyno ar 28/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwydnwch y sector gofal cymdeithasol?

Wedi'i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa waith dadansoddi y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynglŷn ag effaith economaidd ymadawiad y DU â'r UE ar Gymru?

Wedi'i gyflwyno ar 20/11/2024

Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith y Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) a ddaeth i rym ar 1 Mawrth 2021?

Wedi'i gyflwyno ar 07/11/2024

Pa ystyriaeth y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i sicrhau bod symiau canlyniadol Barnett o gyllideb yr hydref Llywodraeth y DU yn cael eu defnyddio i gefnogi gwasanaethau gofal cy...

Wedi'i gyflwyno ar 06/11/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cryfhau deddfwriaeth ar hela gyda chŵn yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 02/10/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lesley Griffiths AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau polisi Lesley yn cynnwys iechyd, tai a datblygu economaidd. Mae'n byw yn Wrecsam ac yn mwynhau cerdded, darllen, coginio a gwylio pêl-droed, yn enwedig Clwb Pêl-droed Wrecsam. Bu'n Gyfarwyddwr etholedig Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.

Hanes personol

Cafodd Lesley ei magu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae hi wedi byw a gweithio yn Wrecsam ar hyd ei hoes fel oedolyn.

Cefndir proffesiynol

Treuliodd Lesley 20 mlynedd yn gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Cyn iddi gael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bu'n gweithio fel Cynorthwyydd Etholaeth i Ian Lucas, AS.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Lesley ei hethol gyntaf i Senedd Cymru ym mis Mai 2007. Sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a chadeirior Grŵp, a gwasanaethodd ar sawl Pwyllgor. Ym mis Rhagfyr 2009, penodwyd Lesley i'w rôl weinidogol gyntaf yn Llywodraeth Cymru. Bu'n gweithio'n barhaus mewn sawl rôl Cabinet o fewn y Llywodraeth tan fis Gorffennaf 2024.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Lesley Griffiths AS