Pobl y Senedd

Mabon ap Gwynfor AS

Mabon ap Gwynfor AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyfor Meirionnydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Dwi'n falch iawn clywed am yr enghraifft dda yna. Dwi'n meddwl, er tegwch i'r Dirprwy Weinidog, ei fod e wedi sôn am yr angen i edrych ar arferion da eraill, a cheisio eu mabwysiadu nhw....

Y Cyfarfod Llawn | 22/03/2023

Ie, amdani.

Y Cyfarfod Llawn | 22/03/2023

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb am gymryd rhan yn y drafodaethyma. Wel, os mai trafnidiaeth gyhoeddus ydy'r Cinderella o wasanaethau cyhoeddus, yna gwasanaeth bysiau ydy chw...

Y Cyfarfod Llawn | 22/03/2023

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Dwi am fynd ymlaen rŵan, os caf i, at goedwigaeth. Mae tua 15 y cant o Gymru wedi'i orchuddio efo coedwigaeth o wahanol fathau, sef tua 3...

Y Cyfarfod Llawn | 22/03/2023

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwlân Cymru yn gynnyrch cynaliadwy, aml bwrpas, ac yn dda yn amgylcheddol. Mae yna alw cynyddol am gynnyrch eco-gyfeillgar, ac mae gwlân Cymru'n berffait...

Y Cyfarfod Llawn | 22/03/2023

A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ynghylch y polisi caffael ar gyfer deunydd ar ystâd y Senedd?

Wedi'i gyflwyno ar 22/03/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mabon ap Gwynfor AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mabon ap Gwynfor yn ymddiddori mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys materion rhyngwladol yn ymwneud a heddwch a chydberthynas gwladwriaethau; a hawliau cymunedol a phobl. Sefydlodd Mabon Gyngrhair Iechyd Gogledd Cymru yn 2013. Roedd yn gyd-drefnydd i wyliau heddwch cenedlaethol Cymru o 2004 i 2006. Mae Mabon yn Gristion. Mae’n arlunydd cain amatur, ac yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth, darllen yn eang, a chwarae gyda’I blant.

Hanes personol

Mae Mabon yn wr I Nia, ac yn dad I bedwar o blant. Maent yn byw ar y fferm deuluol. Yn fab I’r mans, symudodd y teulu I wahanol gymunedau. O ganlyniad mynychodd Mabon amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Gwyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byrhoedlog yn Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.

Cefndir proffesiynol

Graddiodd Mabon o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd BA mewn Hanes. Mae cefndir proffesiynol Mabon yn y wasg a rheoli proseictau.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Mabon fel Cynghorydd Tref yn Aberystwyth yn 2004, ac fel Cynghorydd Sir ar gyfer ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych yn 2017.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mabon ap Gwynfor AS