Pobl y Senedd

Siân Gwenllian AS

Siân Gwenllian AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Arfon

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi y Papur Gwyn ar eiddo a rhenti teg?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

Beth yw targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau lefelau colli beichiogrwydd a marwolaethau babanod a beth yw'r flwyddyn waelodlin y mae'n gweithio ohoni i ysgogi hyn?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r camau ymlaen o ran lleihau lefelau marwolaethau newydd-anedig yng Nghymru, o'i gymharu â chenhedloedd eraill y DU?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad mewn ymateb i'r adroddiad diweddaraf gan Uned Bolisi elusen Sands and Tommy's a nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r af...

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyfanswm y camesgoriadau, a'r gyfradd camesgoriad yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar baratoadau i Gymru gymryd cyfrifoldeb am weinyddiaeth lles?

Wedi'i gyflwyno ar 19/06/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Siân Gwenllian AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Etholwyd Siân i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Arfon dros Blaid Cymru. Cafodd ei hail-hethol i Senedd Cymru yn 2021 gan ddyblu ei mwyayfrif a gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith Aelodau Senedd Cymru.

Hanes personol

Addysgwyd Siân yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl colli ei gŵr bun magu ei 4 plentyn ar ei phen ei hun. Mae wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros gydraddoldeb i ferched a thros yr iaith Gymraeg ers dros 45 mlynedd. Mae ei diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth yn cynnwys theatr, celf, y sîn gerddoriaeth Gymraeg, pêl-droed a rygbi.

Cefndir proffesiynol

Bu Siân yn gweithio fel newyddiadurwr gyda'r BBC, HTV a chwmni Golwg. Bu’n gweithio hefyd ym maes cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys fel swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd.

Hanes gwleidyddol

Bu Siân yn weithgar gyda nifer o fudiadau cymunedol, fel llywodraethwr ysgol ac fel cynghorydd cymuned. Rhwng 2008 a 2016 bu'n gwasanaethu fel cynghorydd ar Gyngor Gwynedd, yn cynrychioli’r Felinheli lle cafodd ei magu. Rhwng 2010 a 2012 hi oedd yn gyfrifol am bortffolio cyllid yr awdurdod a rhwng 2012 a 2014 roedd hi'n aelod o'r Cabinet dros addysg, plant a phobl ifanc ac yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Yn 2014 penodwyd Siân yn bencampwr busnesau bach Gwynedd, yn gyfrifol am hyrwyddo'r sector hon o'r economi yn y sir. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Etholaeth Arfon o Blaid Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Siân Gwenllian AS