Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae ei ddiddordebau’n cynnwys datblygu economaidd
a datblygu cymunedol, ynghyd ag addysg a sgiliau. Mae Jeremy yn byw yn Rhiwfawr
yn etholaeth Castell-nedd. Mae’n mwynhau ffilmiau, darllen, coginio, heicio,
beicio, a dilyn rygbi.
Hanes personol
Cafodd Jeremy ei eni a'i fagu ym
Mhontarddulais. Fel siaradwr Cymraeg, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun
Ystalyfera yn nyffryn Abertawe, a’r Coleg Newydd yn Rhydychen, lle darllenodd y
gyfraith. Yn syth ar ôl graddio, bu Jeremy'n addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol
Warsaw yng Ngwlad Pwyl.
Cefndir proffesiynol
Ar ddechrau ei yrfa, bu Jeremy’n ymarfer
fel cyfreithiwr yn Llundain. Yn dilyn hynny, bu ganddo uwch swyddi cyfreithiol
a masnachol mewn busnesau yn sector y cyfryngau, gan gynnwys ITV a rhwydwaith
teledu'r Unol Daleithiau a stiwdio ffilmiau NBC Universal. Ar ôl dychwelyd i
Gymru, sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun, yn gweithio gyda chleientiaid
rhyngwladol yn y sector darlledu a’r sector digidol. Mae Jeremy wedi bod yn
ymddiriedolwr ac yn ysgrifennydd i Sefydliad Bevan, sef elusen cyfiawnder
cymdeithasol. Mae ganddo brofiad hefyd fel mentor ieuenctid ac fel cynghorydd
mewn canolfannau sy’n darparu cyngor cyfreithiol yn ddi-dâl.
Hanes gwleidyddol
Cafodd ei ethol i Senedd Cymru fel yr
Aelod dros etholaeth Castell-nedd ym mis Mai 2016, yn dilyn ymddeoliad Gwenda
Thomas AC. Mae Jeremy’n eistedd fel Aelod o’r Senedd ar ran Llafur Cymru a’r
Blaid Gydweithredol. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2017, roedd Jeremy yn
aelod o nifer o bwyllgorau seneddol, gan gynnwys Pwyllgor yr Economi, Seilwaith
a Sgiliau; y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; a'r Pwyllgor
Materion Allanol. Bu hefyd yn cadeirio grŵp Cydweithredol Aelodau’r Blaid Lafur. Cafodd
Jeremy ei benodi i'r Cabinet fel y Cwnsler Cyffredinol ym mis Tachwedd 2017.
Wedi i Mark Drakeford AS gael ei ethol yn Arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif
Weinidog ym mis Rhagfyr 2018, parhaodd Jeremy yn rôl hon, ond cafodd ei benodi
i rôl newydd hefyd, sef Gweinidog Brexit. Cyn etholiad y Senedd yn 2021, bu
Jeremy’n gwasanaethu fel y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd,
a bu hefyd yn arwain ar y gwaith o gynllunio adferiad Cymru yn dilyn pandemig
Covid-19.