Pobl y Senedd

Adam Price AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Plaid Cymru
Grŵp Plaid Cymru
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Arweinydd Plaid Cymru
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
A wnaiff y Gweinidog restru'r adegau yn ystod y 12 mis diwethaf y mae Fforwm Cymru Gydnerth wedi ei gynnull er mwyn trafod pwysau o fewn y GIG?
Wedi'i gyflwyno ar 30/01/2023
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw'r Llywodraeth wedi anfon llythyr cylch gorchwyl at Gorff Adolygu Cyflog y GIG a'r corff taliadau ar gyfer meddygon a deintyddion o ran y flwyddyn 2023-24?
Wedi'i gyflwyno ar 26/01/2023
A wnaiff y Gweinidog restru yr adegau yn ystod y 12 mis diwethaf y mae'r Ganolfan Cydgysylltu Argyfyngau wedi'i ddefnyddio mewn ymateb i'r pwysau o fewn y GIG?
Wedi'i gyflwyno ar 26/01/2023
Pa lefel o daliad un tro yn unig y mae'r Llywodraeth wedi cynnig i'r gweithlu GIG yn y flwyddyn ariannol gyfredol?
Wedi'i gyflwyno ar 26/01/2023
Pa lefel o daliad un tro yn unig y mae'r Llywodraeth wedi cynnig i'r gweithlu dysgu yn y flwyddyn ariannol gyfredol?
Wedi'i gyflwyno ar 26/01/2023
Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i gefnogi datblygiad canolfannau triniaeth o fewn y GIG debyg i'r canolfannau triniaeth cenedlaethol a rhanbarthol a arfaethir yn yr Alban ac yn Lloegr?
Wedi'i gyflwyno ar 26/01/2023