Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa drafodaethau a gafodd y Prif Weinidog gyda Phrif Weinidog y DU am yr arian oedd ar gael ar gyfer adfer tomenni glo, yn ystod eu hymweliad â Fferm Wynt Coedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin...

Wedi'i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi i'r alwad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am gynnal adolygiad o sgiliau'r rhai sy'n gyfrifol am arwain a chynllunio sy'n ymwneud ag ases...

Wedi'i gyflwyno ar 21/08/2024

Ydy'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ystyried y goblygiadau cyllidebol i gyrff cyhoeddus sy’n diogelu asedau diwylliannol a darparu adnoddau i fynd i’r afael yn ddigonol â’r argymhellion a wna...

Wedi'i gyflwyno ar 21/08/2024

Pa drafodaethau brys y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cynnal gyda Chyngor Sir Caerffili i atal cau Faenor Llancaiach Fawr?

Wedi'i gyflwyno ar 14/08/2024

Pa drafodaethau brys y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cynnal gyda Chyngor Sir Caerffili i atal cau Sefydliad y Glowyr Coed Duon?

Wedi'i gyflwyno ar 14/08/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith economaidd ar Gymru o gael ei thynnu o'r Undeb Tollau a Marchnad Sengl Ewrop?

Wedi'i gyflwyno ar 24/07/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Delyth fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS.  Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar  stelcio a thrais domestig.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Yn 2019, tyngodd Delyth lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol.  Yn 2021, ail-etholwyd Delyth yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ac mae wedi cael ei phenodi yn llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd, trafnidiaeth ac ynni.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS