Pobl y Senedd

James Evans AS

James Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Brycheiniog a Sir Faesyfed

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle?

Tabled on 13/03/2024

A wnaiff y Gweinidog roi gwybodaeth ynghylch pryd y bydd y fframwaith i Gymru ar gyfer nyrsio mewn ysgolion, rhan 2 nyrsio mewn ysgolion arbennig, yn cael ei ddiweddaru?

Wedi'i gyflwyno ar 29/02/2024

A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith diweddar ar y cynllun ffermio cynaliadwy?

Wedi'i gyflwyno ar 15/02/2024

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi pobl yng Nghymru sydd wedi dioddef o ganlyniad i fewnblaniadau rhwyll y wain, yng ngoleuni cyhoeddi...

Wedi'i gyflwyno ar 09/02/2024

A wnaiff y Gweinidog adolygu'r polisi yng Nghymru sy'n gwahardd yn llwyr grynoadau a symudiadau dofednod er mwyn lleihau'r effaith ar sioeau amaethyddol, o ystyried y daeth y parth atal f...

Wedi'i gyflwyno ar 01/02/2024

Y Cyfarfod Llawn | 31/01/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: James Evans AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae James wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ac i Ganolbarth Cymru. Boed drwy gefnogi a datblygu busnesau, neu drwy sicrhau bod gofal iechyd a gwasanaethau eraill o safon ar gael yn lleol. Mae hon yn ardal sy’n cael ei hesgeuluso’n aml o ran cyllid a buddsoddiad ac mae James am dynnu sylw at y cyfleoedd gwych sydd ar gael ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae James yn chwaraewr rygbi brwd ac mae’n falch o’r cyfnod a dreuliodd fel capten ail dîm Clwb Rygbi Gwernyfed. Mae James yn mwynhau cadw’n ffit ac yn mynd i’r gampfa’n aml. Mae’n falch iawn o’i gi Daisy ac yn mwynhau cerdded drwy gefn gwlad godidog yr etholaeth gyda hi.

Hanes personol

Cafodd James ei eni a’i fagu yn etholaeth fendigedig Brycheiniog a Sir Faesyfed. Cafodd ei fagu ar fferm ei deulu ac mae’n frwd iawn dros yr awyr agored, amaethyddiaeth a diogelu’r rôl bwysig sydd gan ddiwydiant yn ein hardal. Yn ei arddegau, treuliodd James gryn amser ar hyd yr etholaeth gyda’r Ffermwyr Ifanc, yn gwneud ffrindiau, meithrin partneriaethau a datblygu sgiliau bywyd. Ni wnaeth James ddilyn y llwybr traddodiadol i fyd gwleidyddiaeth, gan ddewis peidio mynd i’r Brifysgol a dysgu drwy brofiad gwaith yn lle hynny. Mae’n benderfynol o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r etholaeth.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd James ei ethol fel Cynghorydd Sir dros ward Gwernyfed ac yna’n aelod o gabinet Cyngor Sir Powys. Ym mis Mai 2021, cafodd ei ethol yn Aelod o’r Senedd i gynrychioli ei gartref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, a dyna uchafbwynt ei fywyd gwleidyddol. Ar hyn o bryd, James yw Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd, Llesiant a Chanolbarth Cymru, ac mae’n falch iawn o fod yn gyfrifol am y portffolio hwn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: James Evans AS