Pobl y Senedd

Rhys ab Owen AS

Rhys ab Owen AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Aelod Annibynnol Plaid Cymru

Heb Grŵp

Canol De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet barhau â thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU i gael y cyllid canlyniadol a ddaliwyd yn ôl i Gymru yn sgil cost HS2?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i wella argaeledd offer lleihau niwed fel naloxone i'r cyhoedd yn gyffredinol?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb unigrwydd yng Nghymru, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i gyflwyno tocyn ysgol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, yn debyg i'r cynllun gan Bws Caerdydd?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran datgarboneiddio rhwydweithiau ynni yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 05/04/2024

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r rhesymau pam mae cwmnïau hedfan yn dod â rhai llwybrau hedfan o Faes Awyr Caerdydd i ben?

Wedi'i gyflwyno ar 05/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhys ab Owen AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a llwyddiannau

Prif ddiddordebau Rhys yw materion cyfansoddiadol, ymateb i’r argyfwng hinsawdd, dileu tlodi plant a sicrhau bywyd gwell i deuluoedd a phobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Hefyd, mae ganddo ddiddordeb mawr yn hanes lleol Caerdydd a’r iaith Gymraeg, ynghyd â materion cyfreithiol a materion sy’n gysylltiedig â chyfiawnder.

Hanes personol

Cafodd Rhys ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, lle mynychodd Ysgol Glantaf. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen a chwblhaodd ei gwrs Bar ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Pantyfedwen iddo.

Mae Rhys yn byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'u merch.

Cefndir proffesiynol

Cyn ei ethol, bu Rhys yn gweithio fel bargyfreithiwr i Siambrau Iscoed, Abertawe. Mae wedi gwasanaethu fel bargyfreithiwr ers 2010.

Fe’i penodwyd yn Farnwr Tribiwnlys Haen Gyntaf yn y Siambr Hawliau Cymdeithasol (2019 - 2021).

Bu’n aelod o fwrdd cynghori prosiect cyfiawnder ac awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd yn aelod o banel cynllun cyfraith gyhoeddus Llywodraeth Cymru ac yn ddarlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2014 a 2019.

Yn 2018-19, bu Rhys yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru fel pennaeth polisi’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, cyn Brif Ustus Cymru a Lloegr.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, safodd Rhys yn etholiad Cyngor Caerdydd yn ward Treganna, lle cynyddodd pleidlais Plaid Cymru o 910 i 2,105.

Ers cael ei ethol i’r Senedd, mae Rhys wedi arwain a chefnogi nifer o ymgyrchoedd amlwg, fel galw am gyfiawnder i bobl sy’n byw mewn adeiladau uchel iawn ym Mae Caerdydd, pensiwn teilwng i fenywod a anwyd yn y 1950au ac ymgyrchu dros system ofal genedlaethol i Gymru i gefnogi a gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.

Aelodaeth o grwpiau trawsbleidiol

Etholwyd Rhys yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddementia ddydd Mercher 10 Tachwedd 2021, gyda Jayne Bryant AS wedii hethol yn ddirprwy.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Rhys ab Owen AS