Pobl y Senedd

Sioned Williams AS

Sioned Williams AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Y Cyfarfod Llawn | 29/03/2023

Y Cyfarfod Llawn | 29/03/2023

Y Cyfarfod Llawn | 29/03/2023

Sori, Cadeirydd. Jest ar y papur gan yr NSPCC, jest awgrym, achos bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwneud ymchwiliad ar hyn o bryd i blant mewn gofal a diwygio plant mewn gof...

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 27/03/2023

Diolch. Diolch, Cadeirydd.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 27/03/2023

Diolch. Un cwestiwn olaf, a dwi jest eisiau gofyn nawr, bach yn fwy technegol, o ran y gwaith sy'n cael ei wneud i greu'r system yma—y system e-ragnodi, yr ap, ac yn y blaen. Sut mae algo...

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol | 27/03/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sioned Williams AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Magwyd Sioned Williams yng nghymoedd Gwent ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n byw yn yr Alltwen, yng Nghwm Tawe gyda'i gŵr Daniel a'u dau blentyn sydd yn eu harddegau. Mae Sioned yn rhugl yn y Gymraeg. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Roedd Sioned yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, canolfan iaith Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Mae Sioned yn adolygydd a sylwebydd adnabyddus ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi'n gyn-aelod o Fwrdd a chyn-Gadeirydd Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru.

Hanes gwleidyddol

Roedd Sioned yn Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Sioned Williams AS