Hanes personol
Cafodd Jayne Bryant AS ei geni a’i magu yng Nghasnewydd, lle mae’n byw.
Cefndir proffesiynol
Yn 2016, cafodd Jayne ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd.
Cafodd ei phenodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Bumed Senedd,
ac roedd yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Wedi’i
hailethol yn 2021, cadeiriodd Jayne y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y
Chweched Senedd a bu hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r
Senedd a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Ar ben hynny, cadeiriodd Jayne y
Grŵp Trawsbleidiol ar
Ddiabetes, y Grŵp
Trawsbleidiol ar Rwystro Plant rhag cael eu Cam-drin yn Rhywiol, a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Atal Hunanladdiad. Bu
hefyd yn Is-gadeirydd ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia a’r Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau.
Hanes gwleidyddol
Gydag angerdd dros gyfiawnder cymdeithasol, mae Jayne yn ymgyrchydd
gweithgar ar faterion megis iechyd a llesiant, yr amgylchedd, trafnidiaeth, a
mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Cafodd Jayne ei phenodi’n Weinidog Iechyd
Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2024, a
chafodd ei phenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ym mis
Gorffennaf 2024. Yn dilyn newidiadau i’r ffiniau etholaethol, cafodd Jayne ei
hethol yn Aelod o'r Senedd dros Gasnewydd Islwyn ym mis Mai 2026.