Roedd John Griffiths yn Aelod o
Senedd Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2026. Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu
adael.
Hanes
personol
Ganed John Griffiths yng Nghasnewydd, mae ganddo radd yn y Gyfraith a
diploma mewn Seicoleg gan Brifysgol Cymru, Caerdydd.
Cefndir
proffesiynol
Bu John yn gweithio fel darlithydd Addysg Bellach ac Uwch cyn dod yn
gyfreithiwr, cyn iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro
cyntaf yn 1999.
Hanes
gwleidyddol
Mae John wedi gwasanaethu fel cynghorydd yng Nghyngor Sir Gwent a Cyngor
Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys
datblygu economaidd, cynhwysiant cymdeithasol, addysg, Ewrop, chwaraeon ac
Affrica Is-Sahara.
Mae John wedi gwasanaethu’n flaenorol fel y Gweinidog Diwylliant a
Chwaraeon; y Gweinidog Cyfoeth Naturiol; a Gweinidog yr Amgylchedd a
Chynaliadwyedd yn Llywodraeth Cymru, a chyn hynny bu'n gwasanaethu fel Cwnsler
Cyffredinol; Dirprwy Weinidog Addysg;
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Dirprwy Weinidog
Datblygu Economaidd.