Pobl y Senedd

Rhun ap Iorwerth AS

Rhun ap Iorwerth AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Bangor Conwy Môn

Prif Weinidog Cymru

Prif Weinidog Cymru

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Rhun ap Iorwerth yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Rhun ap Iorwerth yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Rhun ap Iorwerth AS

Bywgraffiad

Prif Weinidog Cymru

Hanes personol

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol gyntaf yn aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad ym mis Awst 2013. Cafodd ei fagu ar yr ynys a’i addysgu yn Ysgol David Hughes a Phrifysgol Caerdydd, lle graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymraeg. Yn rhugl yn y Gymraeg, mae'n briod ac mae ganddo dri o blant.

Cefndir proffesiynol

Bu Rhun yn newyddiadurwr a darlledwr am bron i 20 mlynedd cyn cael ei ethol. Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, gan dreulio cyfnod yn San Steffan cyn dychwelyd i Gymru wedi pleidlais datganoli 1997. Bu’n Brif Ohebydd Gwleidyddol, yn ohebydd i Newyddion Rhwydwaith y BBC, a chyflwynodd ystod eang o raglenni teledu a radio, yn Gymraeg a Saesneg.

Hanes gwleidyddol

Ers ei ethol gyntaf, mae Rhun wedi treulio cyfnodau fel Gweinidog Cysgodol Dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid, ac fel aelod o’r pwyllgorau cyfatebol yn y Cynulliad a’r Senedd. Bu hefyd yn aelod ar wahanol adegau o’r Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus, Deisebau a Safonau, yn ogystal ag yn un o Gomisiynwyr y Senedd, ac yn un o Ddirprwy Arweinwyr Grwp Plaid Cymru yn ystod y Pumed Senedd.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/08/2013 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 - 07/04/2026
  4. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Rhun ap Iorwerth AS