Pobl y Senedd

Vikki Howells AS

Vikki Howells AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Pontypridd Cynon Merthyr

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Vikki Howells AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae diddordebau gwleidyddol Vikki yn cynnwys: addysg; materion amgylcheddol; materion gwledig; ynni; cynllunio; trafnidiaeth a'r economi; mynd i'r afael â thlodi; adfywio cymunedol; a diwylliant a threftadaeth.

Hanes personol

Cafodd Vikki ei geni a’i magu yn Aberdâr, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Yna, aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle enillodd radd baglor mewn Hanes Rhyngwladol a Hanes Cymru, yn ogystal â gradd meistr mewn Hanes Cymru Fodern. Wrth astudio yng Nghaerdydd, enillodd Vikki wobr Charles Morgan yn sgil ei chyfraniad i faes Hanes Cymru.

Cefndir proffesiynol

Roedd Vikki yn athrawes Hanes yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant yng Nghaerffili rhwng 2000 a 2016. Ymgymerodd ag amryw rolau bugeiliol yno, gan wasanaethu’n fwyaf diweddar fel Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth. Mae Vikki hefyd wedi gweithio fel mentor ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac wedi eistedd ar y panel derbyn ar gyfer cwrs TAR Hanes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Hanes gwleidyddol

Ymunodd Vikki â'r Blaid Lafur yn 17 oed ac mae wedi dal sawl rôl yn ei hetholaeth, gan gynnwys Swyddog Menywod a Chadeirydd y Blaid Lafur Etholaethol.  Roedd Vikki yn Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon rhwng 2016 a 2026 ac mae’n cynrychioli Pontypridd Cynon Merthyr ers 2026. Etholwyd Vikki yn Gadeirydd Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd rhwng 2017 a 2024, cadeiriodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad rhwng 2021 a 2024 a hi oedd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch rhwng 2024 a 2026. Ar hyn o bryd, Vikki yw Prif Chwip y Grŵp Llafur a hi yw llefarydd y Grŵp Llafur ar yr Amgylchedd, Materion Gwledig, Ynni a Thrafnidiaeth.

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 - 07/04/2026
  3. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Vikki Howells AS