Pwyllgor y Llywydd - Y Bumed Senedd

The next Senedd election is scheduled for 6 May. In recognition of the need to ensure a level playing field for all candidates during the election period, all committee activity will cease with effect from 7 April (except very limited activity in relation to urgent subordinate legislation or the provisions of Welsh Elections (Coronavirus) Act 2021). New committees are expected to be established before Summer 2021.

Cylch gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor i graffu ar amcangyfrifon ariannol a chynlluniau a gyflwynwyd gan y Comisiwn Etholiadol wrth gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru.

Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant i’r Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.

Mae adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau Cymru 2020 yn nodi, yng Nghymru, y bydd gwaith craffu ar y Comisiwn Etholiadol yn cael ei wneud gan un o bwyllgorau’r Senedd. Enw'r Pwyllgor hwn fydd Pwyllgor y Llywydd.

Yn ogystal ag amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi ei nodau, ei amcanion a'i gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y cyfnod dilynol o bum mlynedd.

Ar ôl cwblhau ei waith craffu ar amcangyfrifon a chynlluniau'r Comisiwn Etholiadol, rhaid i'r Pwyllgor osod yr amcangyfrifon a'r cynlluniau hynny gerbron y Senedd, naill ai fel y'u cafwyd gan y Comisiwn Etholiadol neu gydag addasiadau.

Aelodau'r Pwyllgor