Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Adroddiad Gwaddol

Adroddiad Gwaddol

Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.

Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen Adroddiad Gwaddol y Pedwerydd Senedd gan y Pwyllgor Menter a Busnes.

Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Senedd (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau 

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2011. Ei gylch gwaith oedd archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisïau, gan gwmpasu datblygu economaidd; trafnidiaeth a seilwaith; cyflogaeth; addysg uwch a sgiliau; ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.

 

Trawsgrifiadau

 

Gwaith a gwblhawyd gan Y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Is-grwpiau’r pwyllgor

 

Aelodaeth

Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod:

Aelodau'r Pwyllgor