Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Un o bwyllgorau’r Bumed Senedd (2016-2021) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau/

Adroddiad Gwaddol

Ar ddiwedd pob Senedd, mae pwyllgorau'n edrych yn ôl ar eu gwaith dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn meddwl am y cyngor yr hoffent ei roi i’r pwyllgor nesaf.

Maent yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i bwyllgorau newydd, yr Aelodau sy'n gwasanaethu arnynt, ac i unrhyw un sy'n ymddiddori yn eu gwaith. Gallant helpu pob un ohonom i ddeall beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, a'r grymoedd a fydd yn dylanwadu ar beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen Adroddiad Gwaddol y Pumed Senedd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Cylch gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor hwn ar 28 Mehefin 2016 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles anifeiliaid ac amaethyddiaeth.

Aelodau'r Pwyllgor