Un o bwyllgorau’r Pedwerydd Cynulliad (2011-2016) oedd hwn. Mae’r pwyllgorau cyfredol i’w gweld yma https://senedd.cymru/pwyllgorau
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 22 Mehefin 2011. Ei gylch gwaith oedd archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion yn ymwneud â gwariant, gweinyddiaeth a pholisi yn cwmpasu: addysg, iechyd a lles plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
Ar 22 Ionawr 2014, cytunodd y Cynulliad i newid cylch gwaith y Pwyllgor i gynnwys Addysg Uwch. Parhaodd y pwnc yn rhan o gylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes hefyd, gyda'r ddau bwyllgor yn ystyried Addysg Uwch o'u safbwyntiau penodol. Enw blaenorol y Pwyllgor oedd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.
Trawsgridiadau a gohebiaeth
Gwaith a gwblhawyd gan Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Aelodaeth
Gellir gweld rhestr o’r Aelodau a fu’n gwasanaethu ar y Pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad isod: