At ddibenion etholiadau’r Senedd, mae Cymru wedi’i rhannu’n bum rhanbarth: Dwyrain De Cymru; Canol De Cymru; Gorllewin De Cymru; Canolbarth a Gorllewin Cymru; Gogledd Cymru Mae pob rhanbarth yn ethol pedwar Aelod drwy gyfrwng system cynrychiolaeth gyfrannol, sef System Aelodau Ychwanegol.
Rhestr termau
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
RH
Tymor
Rheol 21 diwrnod
Os na chaiff offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn annilysu (neu’r weithdrefn negyddol os y’i gosodwyd cyn mis Ionawr 2026) a wnaed gan Weinidogion Cymru ei osod gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn i'r offeryn statudol ddod i rym (h.y. cael effaith), rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod i'r Llywydd ac esbonio pam. Gelwir hyn yn “rheol 21 diwrnod”.
Mae rhagor o wybodaeth yma am y newidiadau mewn perthynas ag offerynnau statudol a ddaeth i rym o 1 Ionawr 2026.
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026