Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
Termau O
Term
Offeryn Statudol
Gall is-ddeddfwriaeth fod ar sawl ffurf. Offeryn statudol Cymreig yw'r ffurf fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y bydd y rheolau a nodir yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys i'r is-ddeddfwriaeth. Mae gan y Senedd wahanol weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag offerynnau statudol. Y gweithdrefnau mwyaf cyffredin yw’r weithdrefn annilysu a’r weithdrefn gymeradwyo (gweler rhannau eraill o’r eirfa).
Newidiodd y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chyhoeddi offerynnau statudol yng Nghymru o 1 Ionawr 2026 ymlaen. Rhagor o wybodaeth.
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Term
Offeryn statudol Cymreig
Mae offeryn statudol Cymreig yn ddogfen sy’n cynnwys is-ddeddfwriaeth Cymru a wneir drwy arfer pŵer y mae deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol ei arfer drwy offeryn statudol.
Is-ddeddfwriaeth Cymru yw is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud Weinidogion Cymru neu awdurdod Cymreig datganoledig arall yn unig. Rhagor o wybodaeth.
Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026
Term
Oriel
Yr ardal sy’n amgylchynu’r twndis mawr yng nghanol y Senedd ar y llawr cyntaf.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Term
Oriel gyhoeddus
Uwchben y Siambr yn adeilad y Senedd mae oriel lle gall y cyhoedd eistedd i wylio’r Cyfarfod Llawn. Fel arfer mae 120 o seddi ar gael, a lle i 12 cadair olwyn, ac mae’n bosibl neilltuo lle hyd at dair wythnos ymlaen llaw.
Mae gan bob un o ystafelloedd pwyllgora’r Senedd hefyd oriel gyhoeddus. Fel arfer mae 30 o seddi ar gael yn y rhain, a lle i bedair cadair olwyn, ac mae modd neilltuo lle hyd at dair wythnos ymlaen llaw. Os bydd pwyllgor yn cwrdd mewn sesiwn breifat, mae’n bosibl na fyddwch yn cael eistedd yn yr oriel gyhoeddus yn ystod y cyfarfod, neu ran ohono.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024